National Nuclear Laboratory

News

Monday 25 October 2021

Labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn Cyhoeddi Partneriaeth Sgiliau yng Nghymru

Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC) wedi lansio partneriaeth sgiliau gyda sefydliad addysg bellach (AB) mwyaf Cymru, i gynorthwyo i feithrin y genhedlaeth nesaf o unigolion medrus a phontio gagendor sgiliau’r diwydiant niwclear.

I gydnabod effaith a gwerth Cymru fel canolfan gwyddoniaeth ac arloesi niwclear, agorodd yr LNC ei safle ffurfiol gyntaf yng Nghymru ar Ynys Môn yr haf hwn.

Yn awr, fel rhan o’i ymrwymiad clir i ddyfodol datblygiad niwclear yng Nghymru, mae’r LNC yn buddsoddi mewn partneriaeth sgiliau gyda Grŵp Llandrillo Menai – grŵp coleg blaenllaw gyda champysau ar draws pedair sir yng Ngogledd Cymru, i gynorthwyo i baratoi dysgwyr ar gyfer y cyfleoedd y mae technoleg niwclear a ffurfiau eraill o ynni glân yn eu cynnig i’r ardal. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dod ag ysgolion cynradd ac uwchradd Ynys Môn ynghyd i amlygu gyrfaoedd STEM yn ogystal â’r  gyrfaoedd posibl o fewn y diwydiant niwclear yn nigwyddiad CODI STEM Grŵp Llandrillo Menai yn 2022.
  • Gweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai i ddarparu profiad a gwybodaeth i fyfyrwyr a darlithwyr ar yrfaoedd mewn pynciau STEM a thechnoleg niwclear.
  • Cefnogi Grŵp Llandrillo Menai ar raglenni niwclear ac ynni glân eraill.

Fel labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear, mae’r LNC wedi ymrwymo i ddarparu ar gyfer Gymru gyfan a’r DU. Mae’r Llywodraeth wedi cydnabod na fydd y DU, heb niwclear, yn cyflawni ei ymrwymiadau sero-net ar amser yn ei Gynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd, Papur Gwyn Ynni a’i Strategaeth Sero-Net. Yn gynharach y mis hwn, gwnaeth y DU ymrwymiad pwysig i ddatgarboneiddio ei holl system drydan erbyn 2035.

Ac eto, mae’r sector niwclear yn wynebu’r her o weithlu sy’n heneiddio, gan adael y diwydiant gyda gagendor sgiliau. Cyfartaledd oedran peiriannydd yn y DU yw 54 sy’n golygu bod recriwtio a hyfforddi unigolion medrus yn flaenoriaeth allweddol ar draws pob sector.

Mae’r LNC hefyd yn ehangu ei berthynas â Phrifysgol Bangor drwy noddi dau fyfyriwr PhD yn ogystal â chyhoeddi fod eu huwch arweinydd technegol, Dave Goddard, yn athro gwadd mewn tanwydd niwclear. Yn ogystal, y mae’n cynyddu cyllid ar gyfer ymchwil a datblygiad niwclear ym Mhrifysgol Bangor o dan Raglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Eisoes, mae’r LNC yn cefnogi dros 1,100 o swyddi ar draws y sector niwclear, yn ogystal â buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf trwy raglenni prentisiaeth, graddedig ac ôl-Ddoethuriaeth.

Dywedodd Paul Howarth, Prif Swyddog Gweithredol yr LNC: “Credwn y gall ac y dylai Cymru fod yn ardal flaenllaw ar gyfer technolegau ynni glân – nid yn unig o ran niwclear ond hefyd o ran ffynonellau gwynt, solar a ffynonellau carbon isel eraill – ac, yn y broses, feithrin y gadwyn gyflenwi leol gan ddarparu mwy o swyddi gwyrdd o safon uchel a chyflogau uchel. ”

Dywedodd Virginia Crosbie, AS Ynys Môn: “Gyda chwmnïau fel Bechtel, Rolls-Royce a Westinghouse yn edrych tuag at ddatblygiadau niwclear newydd yn yr Wylfa Newydd a Thrawsfynydd i gynorthwyo i gyrraedd sero-net a’r potensial ar gyfer cyfleusterau ymchwil a datblygu newydd fel y Cyfleuster Profi Hydrolig Thermol Cenedlaethol, gall Gogledd Cymru arwain y ffordd wrth gynhyrchu ynni glân. Rwy’n ymhyfrydu o weld yr LNC yn gosod sgiliau yn uchel ar yr agenda gan y gall technoleg niwclear newydd ddod â miloedd o swyddi sy’n gofyn am sgiliau medrus i’r ynys. ”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn: “Dim ond os oes gennym y sgiliau cywir o fewn y gweithlu lleol y gellir gwireddu cyfleoedd economaidd o unrhyw natur, ac mae sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn gymwys i ddilyn gyrfaoedd medrus iawn wedi bod yn flaenoriaeth i mi erioed. Mae’n bwysig yn benodol bod pob cyfle yn cael ei roi i weithlu’r dyfodol o ran pynciau STEM, gyda chymaint o gyfleoedd i ddefnyddio’r sgiliau hynny eisoes yma ar Ynys Môn neu ar y gweill.”

Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn hynod o falch sefydlu’r bartneriaeth hon gyda’r LNC a fydd yn rhoi mewnwelediad i’n dysgwyr a’n staff o dechnoleg a gwyddoniaeth o’r radd flaenaf. Bydd y sgiliau yr ydym yn eu darparu i’n pobl ifanc yn agor cyfleoedd iddynt ym mhob diwydiant carbon isel yn lleol ac yn genedlaethol fel yr ydym yn ymroi i wynebu’r argyfwng newid hinsawdd. “

Dywedodd Bill Lee, Athro Sêr Cymru yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor: “Dyma ddechrau perthynas agos rhwng yr LNC a Phrifysgol Bangor i gefnogi datblygiad pob ffurf o ynni carbon isel ar gyfer Gogledd Cymru. Rydym yn hynod falch o’r cyfleoedd ymchwil a hyfforddi a fydd yn ein galluogi i gydweithio gyda’r LNC yn ogystal â Grŵp Llandrillo Menai. ”

Yn unol â’i ymrwymiad i Gymru, mae’r LNC hefyd yn falch o gyhoeddi bod ei wefan bellach yn gwbl ddwy-ieithog.