National Nuclear Laboratory

News

Wednesday 23 June 2021

Arloesi Drwy Arwriaeth: Ein Peirianwyr Benywaidd yn Arwain y Ffordd

Mae Diwrnod Rhyngwladol Merched mewn Peirianneg eleni yn ymwneud â dathlu #ArwyrPeirianneg y byd a’r effaith y maent yn ei gael ar ein bywydau bob dydd.

Yn LNC, yr ydym yn ymfalchïo fod gennym dîm arbennig o beirianwyr benywaidd, gwyddonwyr ac arbenigwyr sy’n hybu datblygiad gwyddoniaeth niwclear ac yn ei harneisio er budd y gymdeithas ehangach. I nodi’r diwrnod, yr ydym yn proffilio dwy o’n peirianwyr benywaidd pennaf – sy’n cael eu hadnabod am gydnabod problem ac yna meiddio bod yn rhan o’r datrysiad, ac sy’n cyflawni ‘gorchestion’ bob dydd yn ogystal â rhai argyfyngus.

Mae Dr Caroline Meek, Peiriannydd Cywirdeb Saernïol, ac Eve Mullen, Rheolwr Peiriannol Maes Prosiect, yn dweud wrthym am arwyr a ysbrydolodd eu gyrfaoedd, sut y maent wedi bod yn defnyddio’u sgiliau a’u gwybodaeth arbenigol yn ystod y pandemig a’r hyn y maent yn ei ragweld am ddyfodol merched yn y proffesiwn.

Dr Caroline MeekEve Mullen
Chwith: Dr Caroline Meek, Dde: Eve Mullen

Beth mae eich rôl yn ei gynnwys yn LNC fel y labordy cenedlaethol ar gyfer ymholltiad niwclear? Sut ydych chi’n defnyddio’ch arbenigedd peirianegol o ddydd i ddydd?

Dr Caroline Meek: Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn ymwneud yn bennaf â dadansoddi grymoedd a straen ar gydrannau adweithyddion, llestrau a chynwysyddion gwastraff, i benderfynu a ydynt yn debygol o wrthsefyll pwysedd, gan osgoi toriadau, dadffurfio’n ormodol neu symud. Ar y cyfan, gwneir hyn drwy ddefnyddio meddalwedd modelu; fodd bynnag, y mae rhai prosiectau wedi golygu cymharu canlyniadau â chyfrifiadau llaw.

Eve Mullen: Dwi’n gyfrifol am ddatblygu offer labordy arbenigol, y gellir ei weithredu a’i gynnal o bell mewn amgylchedd ymbelydredd uchel. Mae’n rôl amlddisgyblaethol gan weithio gyda LNC, Sellafield ac eraill yn y gadwyn gyflenwi.

Pwy fyddai eich Arwr Peirianegol? A oes yna ferch benodol a sbardunodd eich chwilfrydedd gwyddonol neu a ddylanwadodd ar eich llwybr gyrfaol?

Dr Caroline Meek: Mi fuaswn i’n dweud Emily Warren Roebling, a ysgwyddodd rheoli yr adeiladu a chwblhau Pont Brooklyn yn Efrog Newydd ar ôl i’w gŵr, y prif beiriannydd, farw. Yr oedd hi bron yn gyfan gwbl hunanaddysgiedig drwy ddarllen y cynlluniau, y lluniadau a’r amcangyfrifon o waith ei gŵr. Yn ogystal â hynny, hanes fy hen nain a oedd, yn ôl llên gwerin y teulu, yn un o’r meddygon benywaidd cyntaf yn Rwsia – fe wnaeth y syniad o gael hynny yn ein teulu fy ysbrydoli i geisio gwneud rhywbeth tebyg.

Eve Mullen: Dwi’n cofio dysgu am Marie Curie yn yr ysgol a bod yn llawn edmygedd o’i chyraeddiadau gwyddonol dylanwadol. Fodd bynnag, y gwir ddylanwad cynnar oedd fy nain. Yr oedd hi’n feddyg teulu a fagodd bump o blant ar ei phen ei hun ochr yn ochr â’i gwaith, gydag agwedd ddi-lol ac yn gyforiog o wybodaeth hynod ddiddorol am y corff dynol. Fe wnaeth ei hesiampl nodedig fy annog i yrfa STEM, ac rwy’n ddiolchgar amdano.

Beth fyddech chi’n ei ddweud yw’r ‘arwriaeth’ o ddydd i ddydd y mae’n bosibl na fuasai pobl yn sylweddoli eich bod chi’n ymgymryd â nhw fel rhan o’ch rôl?

Dr Caroline Meek: Yn fy rolau blaenorol fel peiriannydd dylunio, bu’n rhaid i mi wneud asesiadau risg sy’n gwbl hanfodol. Yr oedd hyn yn golygu fy mod yn gorfod ystyried saernïaeth a chynhaliaeth dyluniadau saernïol, dod o hyd i atebion i’w gwneud yn fwy diogel i’r timau a oedd yn cyflawni’r gwaith, yn ogystal ac i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Eve Mullen: Cael y bobl iawn i gyfathrebu â’i gilydd a’u hatgoffa o’r darlun ehangach. Awydd sydyn llawer o beirianwyr yw rhoi eu pennau i lawr, plymio i’r manylion ac ysgrifennu adroddiad cyn ymgysylltu ag unrhyw un arall. Dwi’n edrych allan am y math yma o ymddygiad ac yn cyfeirio pobl at eu cydweithwyr, arbenigwyr neu randdeiliaid eraill y mae angen iddynt ymgysylltu â hwy er mwyn creu canlyniad o safon uchel.

Sut mae’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eich gwaith fel peiriannydd?

Dr Caroline Meek: Yn ystod y pandemig, dwi wedi sicrhau fy mod yn parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ar bob agwedd o’m gwaith. Ers gweithio o adref dwi’n cadw dyddiadur dyddiol o’m holl gyfrifoldebau a sgyrsiau. Mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy nid yn unig i’r cof ond er mwyn cadw amser, gwneud archwiliadau a rheoli ansawdd.

Eve Mullen: Dwi’n cytuno. Mae symud i amgylchedd gwaith rhithwir wedi arwain at adeiladu ar gyfathrebu – mae gwaith tîm wedi bod yn bwysicach nag erioed! Mae fy nhîm wedi llwyddo i weithredu’n llawn o bell ond yn dal i wneud cynnydd wrth ddylunio cyfleusterau labordy canolog newydd LNC, gan gefnogi digomisiynu safle Sellafield.

LNC yw’r Noddwr Diwydiannol i Ferched yn Niwclear presennol y DU. Sut ydych chi’n gweld y sector niwclear yn denu mwy o ferched i beirianneg a’i gwneud yn hawdd i fynd iddo am genedlaethau i ddod?

Dr Caroline Meek: Mae denu peirianwyr benywaidd y dyfodol yn dechrau drwy sicrhau fod merched ifanc mor ifanc â chwe mis oed yn cael eu hannog ac nid eu rhwystro rhag archwilio’r byd trwy siapiau, rhifau, gwrthrychau sy’n symud, peiriannau a thrafnidiaeth. Dylai pob rhiant ac athrawon blynyddoedd cynnar gael eu hyfforddi a’u haddysgu i fod yn ofalus lle y maent (yn anfwriadol o bosibl) yn dangos rhagfarn a gwahaniaeth yn y ffordd y mae bechgyn yn cael eu hannog i wneud y pethau hyn, a ystyrir yn draddodiadol fel diddordebau bechgyn.

Eve Mullen: Mae’r gostyngiad mwyaf mewn diddordeb merched mewn gyrfaoedd STEM yr wyf wedi ei weld ar lefel TASau a TGAU. Dyna pryd mae’n ymddangos bod mathemateg, peirianneg a gwyddoniaeth yn colli ei apêl i ferched, am lawer o resymau. Er enghraifft, y canfyddiad nad yw merched yn dda ar ochr ymarferol peirianneg, neu ferched ond yn gweld dynion mewn rolau peirianegol yn unig. Gallai hyn hefyd fod yn gysylltiedig â diffyg gwybodaeth am lawer o’r gyrfaoedd amrywiol y mae peirianneg yn ei gynnig. Nid gweithio ar injan yn unig mohono! Felly, hoffwn weld LNC a sefydliadau eraill yn mynd i’r afael â’r her honno drwy waith allanol.

Yn gynharach yn 2021, cyflawnodd LNC y Safon Cydraddoldeb Genedlaethol, meincnod ar gyfer cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, a oedd yn cynnwys asesiad annibynnol, trylwyr o’n dull a’n harferion.

Ar ôl ymddangos yn ein Diwrnod Rhyngwladol Merched mewn Peirianneg 2020, buom hefyd yn siarad â Melissa Loyley, Prif Beiriannydd (Mecanyddol) am ba brosiectau peirianegol arloesol y mae hi wedi eu hedmygu ers hynny, dan arweiniad peirianwyr benywaidd eraill y LNC.

Melissa Loyley

Meddai Melissa: “Ychydig o beirianwyr benywaidd sydd yn LNC ond gwn am rai rolau arbenigol a ddelir gan ferched yr wyf yn eu hedmygu’n fawr. Mae Dr Steph Thornber, yr wyf wedi cael y fraint o weithio gyda hi ar y prosiect HIP100, wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ardderchog ar fewngapsiwleiddio sy’n edrych yn addawol ar gyfer gwaredu gwastraff yn y dyfodol.

Dwi hefyd yn gweithio gyda Naomi Rutledge, sydd wedi bod yn gwneud gwaith cyffrous ym maes roboteg a rhithwir, a fyddai’n gyfeiriad newydd i LNC gymryd wrth ddatblygu. Mae’r rhan fwyaf o beirianwyr benywaidd (gan fy nghynnwys i) yn teimlo rheidrwydd i ragori yn eu disgyblaethau cymharol, er mwyn derbyn y gydnabyddiaeth sy’n dod yn hawdd i beirianwyr gwrywaidd. Nid yw’n ddigon i wneud eich gwaith a chael eich cydnabod am wneud eich gwaith yn dda – mae angen ichi fynd y tu hwnt i hynny. “

Mae yna hefyd rai camdybiaethau parhaol i fynd i’r afael â nhw ynglŷn â pheirianneg a’r hyn sydd dan sylw. Fel y mae Melissa yn ychwanegu: “Pan ddywedais i gyntaf wrth bobl fy mod yn beiriannydd mecanyddol, yr oeddynt yn rhagdybio mai mecanig oeddwn i ac yn gallu trwsio ceir. Dwi’n angerddol am ddylunio ceir, ac yn eironig, gallaf fwy na thebyg gynorthwyo unrhyw un i drwsio ei gar, gyda’r wybodaeth eang ar sut mae’n cael ei adeiladu hefyd. “

Amlinellir ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant yng Nghynllun Strategol newydd LNC – gweledigaeth i ddarparu gwaith ystyrlon i bawb a chefnogi’r sector i dyfu a ffynnu.