National Nuclear Laboratory

News

Thursday 18 February 2021

Adroddiad y Llywodraeth a Diwydiant yn dweud “y dylai niwclear fod yn rhan allweddol o’r gymysgedd hydrogen glân”

Mae papur newydd sy’n amlinellu potensial hydrogen gwyrdd niwclear wedi cael ei gyhoeddi gan y Cyngor Diwydiant Niwclear, sy’n fforwm ar y cyd rhwng diwydiant niwclear y DU a’r Llywodraeth.

Daw’r Map Ffordd Hydrogen i’r casgliad y gallai pŵer niwclear gynhyrchu traean o’r holl hydrogen glân sydd ei angen ar y DU i gyflawni Sero-Net erbyn 2050. “Dylai niwclear fod yn rhan allweddol o’r gymysgedd hydrogen gwyrdd. Mae’n cynnig opsiwn dibynadwy ar gyfer hydrogen heddiw, mewn electrolysis wedi’i yrru gan bŵer glân, grymus, ac yn addo opsiynau ar gyfer hydrogen yfory, mewn electrolysis ager a hollti dŵr yn thermoegemegol”, meddai’r papur.

Mae’r papur yn mynegi y buasai hyn yn ychwanegu degau o filoedd o swyddi sy’n gofyn am fedrusrwydd, â chyflog dda i’r sector niwclear, sydd eisoes yn cefnogi 60,000 o swyddi yn uniongyrchol ledled y DU, cyn nodi map ffordd ar gyfer sut y gall niwclear gefnogi gweledigaeth Cynllun Deg Pwynt y Prif Weinidog a Phapur Gwyn Ynni’r Llywodraeth.

Dywedodd Dr Fiona Rayment, Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg LNC:

“Mae’r trawsnewid i system ynni Sero-Net yn nod gyffrous ond arwyddocaol ac ni ddylai’r un ohonom danamcangyfrif maint yr her. Er mwyn galluogi’r datgarboneiddio dwfn sydd ei angen, mae’n amlwg y bydd angen i hydrogen chwarae rôl gynyddol.

“Mae gan y technolegau niwclear presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg yr hyblygrwydd i gynhyrchu ynni glân, dibynadwy ac isel ei gost i fynd i’r afael ag anghenion ein diwydiannau a’n marchnadoedd, boed hynny mewn trydan, gwres neu hydrogen. Bydd hydrogen ‘gwyrdd’ a gynhyrchir gan niwclear yn benodol, ochr yn ochr â dulliau eraill o ynni glân, yn sicrhau cyflenwad digonol i hybu economi’r dyfodol.”