National Nuclear Laboratory

News

Monday 29 March 2021

Dyfarnu Gwobr Pinkerton i awduron y Labordy Niwclear Cenedlaethol

Mae Robin Taylor a Gemma Mathers o’r LNC wedi ennill Gwobr Pinkerton y Sefydliad Niwclear. Mae eu papur arobryn, sy’n manylu ar cyfnod cyntaf o’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig a arweinir gan LNC ac a ariennir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn cyflwyno ymdreiddiad technegol i arloesi a chyfle i dechnolegau niwclear datblygedig.
Derbyniodd Gemma Mathers a Robin Taylor Wobr Pinkerton 2019 yn ystod gweminar y Sefydliad Niwclear. Mae Gemma a Robin ill dau yn aelodau annatod o’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig o dan arweiniad LNC.

Bob blwyddyn mae’r Sefydliad Niwclear (NI) yn dyfarnu Gwobr Pinkerton i awduron y papur gorau yng nghyfnodolyn ‘Nuclear Future’. Eleni, mae Robin Taylor a Gemma Mathers o’r Labordy Niwclear Cenedlaethol wedi derbyn y wobr fawreddog.

Er ei fod fel arfer yn cael ei ddyfarnu bob gaeaf yng Nghinio Blynyddol Cymdeithas y Diwydiant Niwclear a’r Sefydliad Niwclear symudodd y pandemig y seremoni i leoliad rhithwir. I ddathlu derbyn gwobr 2019, ymunodd Robin a Gemma mewn gweminar bwrpasol y Sefydliad Niwclear i drafod eu papur ac i ateb cwestiynau’r gynulleidfa.

Mae eu papur a ysgrifennwyd ar y cyd, yn ymwneud ag Arloesi yn yr adnewyddiad dyfrllyd o danwydd niwclear wedi darfod, ac yn ymdrin â’r cyfnod cyntaf o’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig (AFCP) dan arweiniad LNC. Mae’r pwnc hwn yn cefnogi trawsnewidiad Sero-Net y DU trwy gynyddu cynaliadwyedd cylchred tanwydd niwclear a dad-beryglu’r defnydd o dechnolegau niwclear datblygedig

DATBLYGU ARLOESEDD CYLCHRED DYFRLLYD

Drwy ddyfarnu Gwobr Pinkerton, mae’r Sefydliad Niwclear yn cydnabod gwaith rhagorol yr awduron ar y Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig (AFCP) fel yr amlinellir yn eu papur technegol. Mae Robin a Gemma ill dau yn aelodau annatod o’r rhaglen, gan weithio fel Arweinydd Technegol Ailgylchu a Chynaliadwyedd ac Uwch Reolwr Prosiect, yn y drefn honno.

Yn eu papur, mae Robin a Gemma yn disgrifio’r cynnydd a wnaethpwyd yn y cyfnod cyntaf o’r prosiect Ailgylchu Dyfrllyd y Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig, a ariannwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) o 2017-2019. Trawsnewidiodd y cyfnod cyntaf hwn i’r prosiect Ailgylchu Dyfrllyd presennol y rhaglen, sydd wedi ehangu a chyflymu cynnydd y DU tuag at arddangos opsiwn ailgylchu dyfrllyd datblygedig ar gyfer rheolaeth tanwydd a ddefnyddid yn y dyfodol.

Er iddo gael ei ariannu gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fel rhan o’r Rhaglen Arloesi Ynni (EIP) gwerth £ 505m, mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar flynyddoedd lawer o Ymchwil a Datblygu gan LNC yn y maes hwn. Mae’r prosiect hwn yn hybu thema greiddiol wyddonol Ailgylchu a Gwahanu Isotop Datblygedig (ARIS) y LNC yn ogystal â chydweithrediadau eraill: yn benodol, cyfranogiad LNC ym mhrosiectau Horizon 2020 EURATOM GENIORS, PUMMA a PATRICIA.

Yn eu gweminar gwobrwyo (y gall aelodau’r Sefydliad Niwclear ei weld ar-lein erbyn hyn), tywysodd Robin a Gemma y gynulleidfa trwy eu papur a hanes y Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig.

CEFNOGI DYFODOL SERO-NET

Er mwyn i ynni niwclear chwarae rhan gyflawn wrth gwrdd â Sero-Net erbyn 2050, rhaid i’r DU fynd i’r afael â’r her o reoli tanwydd a ddefnyddid. Trwy’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig, mae LNC yn gweithio i gynorthwyo cau’r cylchred tanwydd niwclear ac ailgylchu tanwydd a ddefnyddid yn gynaliadwy ar gyfer defnydd newydd.

Mae Robin a Gemma yn tynnu sylw at y buddiannau hyn o fewn cyd-destun ailgylchu dyfrllyd. Gall ailddefnyddio defnydd niwclear ar gyfer tanwydd newydd ehangu argaeledd adnoddau naturiol a lleihau effaith amgylcheddol ynni niwclear yn gyffredinol.

Yn ogystal, mae’r gwaith hwn yn agor drysau ar gyfer cymwysiadau cyffrous y tu hwnt i ynni glân. Mae’r awduron yn egluro, trwy sianelu sgiliau ac arloesedd y Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig mewn cemeg ymwahanu, gall wyddonwyr niwclear wahanu’r radio-isotop americiwm-241 ar gyfer ffynonellau pŵer gofodol.

Drwy arddangos cyflawniadau technegol y Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig – ochr yn ochr ag egluro’r effeithiau gwerthfawr hyn ar gynaliadwyedd, economeg ac arloesedd y DU – mae Robin a Gemma wedi darparu cipolwg drwyadl i rôl arweiniol strategol bwysig LNC ar y rhaglen.

RHAGOLYGON AROBRYN

Mae LNC yn teimlo’n freintiedig fod y Sefydliad Niwclear wedi cydnabod Robin a Gemma am eu cyfraniad ardderchog i Ddyfodol Niwclear a’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig.

Ar dderbyn y wobr, dywedodd Robin Taylor:

Dwi wedi ysgrifennu papurau technegol i ‘Nuclear Future’ o’r blaen a chredaf ei fod yn ddull ardderchog o gyfathrebu ein gwaith i gynulleidfa y diwydiant niwclear ehangach. Dwi wastad wedi ei gael yn brofiad gwerth chweil ac mae derbyn gwobr fawreddog Pinkerton yn coroni’r cyfan. Mi fuaswn yn bendant yn annog eraill i gyflwyno erthyglau technegol i ‘Nuclear Future’.

Dywedodd Gemma Mathers:

I ddyfynnu Henry Ford: Os ydi pawb yn symud ymlaen gyda’i gilydd, yna mae llwyddiant yn anorfod. Mae bod yn gallu cyhoeddi gwaith trwy ‘Nuclear Future’ yn darparu llwyfan ar gyfer galluogi cydweithredu a chyfnewid syniadau, ac felly’n cefnogi’r diwydiant ehangach i symud ymlaen gyda’n gilydd. Mae ennill Gwobr Pinkerton yn golygu fy mod yn cael diolch i’r tîm arbennig o bobl sy’n gweithio’n galed iawn i gyflawni’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Datblygedig ar lwyfan mwy oherwydd hebddynt hwy ni fyddai unrhyw beth i ysgrifennu amdano.

Dywedodd Sarah Beacock, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Niwclear:

Allan o 20 o bapurau technegol a gyhoeddwyd yn 2019, ymddangosodd papur Robin Taylor a Gemma Mathers yn newis 4 uchaf y 4 pob beirniad (aelodau’r Pwyllgor Golygyddol). Mewn blwyddyn cystadleuaeth glòs, yr oedd papur Robin a Gemma yn cael ei ystyried fel un hynod dechnegol ei gynnwys ac fe’i nodwyd gan un beirniad fel ‘Yn dechnegol ragorol a blaengar’. Llongyfarchiadau oddi wrth bawb ar banel golygyddol y Sefydliad Niwclear a ddewisodd y papur hwn fel enillydd Gwobr Pinkerton yn 2019.

Gallwch ddarllen eu papur yn ‘Nuclear Future’ (rhifyn 15, Tachwedd / Rhagfyr 2019) yn archifau’r Sefydliad Niwclear a darllen mwy yng nghyhoeddiad Gwobr Pinkerton y Sefydliad Niwclear. Gall aelodau y Sefydliad Niwclear hefyd wylio y derbyniad gweminar o’r wobr 2019 ar-lein.