National Nuclear Laboratory

News

Monday 14 June 2021

Cyfri’r dyddiau hyd COP26: Cyfathrebu ac ymgysylltu yw ein cyfrifoldeb fel gwyddonwyr

Gan Dr Rob Whittleston, Cyfarwyddwr, Ymgysylltu Rhyngwladol, Diogelwch a Rhwystro Amlhau

Yr hyn sydd wedi fy nharo i wrth weithio yn LNC, a gyda chydweithwyr ar draws y sector niwclear, yw mai amgylcheddwyr ydym ni yn y bôn.

Boed yn siarad â graddedigion sy’n ymuno â ni’n syth o’r brifysgol neu rheini sydd wedi bod ar y rheng flaen o ran ynni glân ac yn eu hymdrechion i adfer yr amgylchedd am nifer o flynyddoedd, yr un yw’r neges: yr ydym yn danbaid dros wneud gwahaniaeth i’r blaned. Yn fwy na hynny, yr ydym yn ei ystyried yn gyfrifoldeb arnom i ddefnyddio’r holl arbenigedd a galluoedd gwyddonol sydd gennym i gynorthwyo i fynd i’r afael â’r problemau cymdeithasol mawr sy’n ein hwynebu.

Rob Whittleston

Felly, gyda’r ffocws y mae COP26 yn ei ddwyn i reidrwydd i fynd ar ein cenhadaeth datgarboneiddio fyd-eang, yn enwedig mewn blwyddyn pan fo’r DU yn llywyddu, daw’r teimlad o gyfrifoldeb yn fwy byw.

Yn anffodus, anaml y cydnabyddir pŵer niwclear fel ‘prif chwaraewr’ yn nigwyddiadau COP, neu hyd yn oed yn yr agenda ynni glân ehangach, er iddo gael ei brofi fel ffynhonell ynni isel iawn o ran carbon.

Dibynnir ar niwclear yn y DU i ddarparu dwy ran o bump o’n trydan glân ac un rhan o bump o’n holl gyflenwad. Yn fyd-eang, niwclear yw’r ail ffynhonnell fwyaf cyffredin o ynni carbon isel ac mae’n gyfystyr â thynnu 400 miliwn o gerbydau o’n ffyrdd bob blwyddyn. Mae hynny fwy na deng gwaith nifer y cerbydau trwyddedig ym Mhrydain ers mis Mawrth y llynedd.

Ond ychydig y tu hwnt i’n sector fydd yn ymwybodol o’r ystadegau hynny.

Er gwaethaf astudio cwrs prifysgol a oedd yn ymwneud ag ynni, yr amgylchedd a gwyddoniaeth a pholisi newid hinsawdd yn benodol, ni ymdriniwyd â rôl niwclear. Mae’r diffyg cydnabyddiaeth hyn yn parhau i fy synnu. Dim ond drwy siawns y cefais fy nghyflwyno i’r sector gan fedru gweld dros fy hun yr effaith gadarnhaol a phwysig y mae’n ei wneud.

Eleni, fodd bynnag, mae’r llanw’n troi a gobeithiwn weld statws niwclear yn newid yn sylfaenol. Mae hyn yn amlwg yn agendâu polisi mwyafrif o genhedloedd sydd â hanes o bŵer niwclear.

Yn sicr, o safbwynt y DU, mae’r llywodraeth wedi nodi cefnogaeth glir i rôl niwclear fel rhan o bortffolio ynni glân, dibynadwy a fforddiadwy yn ei Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd. Ac nid yw’r DU ar ei phen ei hun.

Ar ôl 48 o flynyddoedd, mae Plaid Ddemocrataidd yr Unol Daleithiau wedi cefnogi’n ffurfiol y defnydd o niwclear, gyda gweinyddiaeth newydd Biden-Harris yn ei gynnwys yn eu cynllun hinsawdd $ 1.7 triliwn; yn parhau â buddsoddiad sylweddol mewn ymchwil technoleg niwclear datblygedig gyda’r bwriad o osod adweithyddion arddangos erbyn canol y 2020au. I’r gogledd o’r ffin, hefyd, mae llywodraeth Canada wedi nodi map ffordd Adweithydd Modwlar Bach uchelgeisiol a chynllun gweithredu fel modd o ddiwallu eu hanghenion ynni, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y dyfodol.

Yn nes adref, cwblhaodd Canolfan Ymchwil Gyfun y Comisiwn Ewropeaidd (JRC) yn ddiweddar asesiad gwyddonol i niwclear gyda’r datganiad ddigamsyniol “nad oes tystiolaeth ar sail gwyddoniaeth bod ynni niwclear yn gwneud mwy o niwed i iechyd dyn neu i’r amgylchedd nag unrhyw dechnolegau cynhyrchu trydan sydd eisioes wedi’u cynnwys yn Nhacsonomeg yr UE fel gweithrediadau sy’n cefnogi gostyngiad newid yn yr hinsawdd.” Mae’r canfyddiad hwn, ar ôl llawer o ddadlau, yn gam hanfodol i sicrhau agwedd sy’n dechnolegol ddi-duedd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd sy’n blaenoriaethu’r dull mwyaf effeithiol o gyflawni’n hamcanion.

Ac mae economïau sy’n datblygu yn edrych fwyfwy at niwclear fel dewis amgen sy’n amgylcheddol ddiogel yn lle glo a nwy naturiol – sy’n rhoi pwysau ar y cenhedloedd hynny sydd â rhaglenni ac arbenigedd datblygedig i gefnogi mabwysiadu technoleg niwclear yn heddychol yn fyd eang.

Mae’n siwr, felly, y dyddiau hyn y mae’n amlwg fod bod o blaid niwclear yn mynd law yn llaw â bod yn amgylcheddwr?

Yn wir, ledled y byd, yn wyneb y dystiolaeth wyddonol ysgubol, mae gweithredwyr blaenllaw a oedd gynt yn amheus ynghylch rôl technoleg niwclear wedi dod yn eiriolwyr iddo. Mae Bill Gates yn parhau i hyrwyddo technolegau niwclear datblygedig yn ei lyfr diweddar – How to Avoid a Climate Disaster – ac mae’n tynnu sylw at y gwaith arloesol y mae ei gwmni TerraPower wedi bod yn ei wneud trwy wyddoniaeth niwclear.

Mae’r rhaglen ddogfen Pandora’s Promise yn 2013 a gyfarwyddwyd gan Robert Stone, yn archwilio gwreiddiau drwgdybiaeth hanesyddol niwclear ac yn dilyn hynt rai o’r unigolion hyn, gan wyrdroi llawer o’r camdybiaethau sy’n parhau i gael eu harddel.

Ac yn fwyaf diweddar, lansiodd yr awdur a’r gweithredwr Prydeinig Zion Lights, sydd wedi bod yn llefarydd ar ran y mudiad Extinction Rebellion, y sefydliad an-llywodraethol (NGO) Emergency Reactor newydd, sy’n annog gweithredwyr hinsawdd eraill i ddilyn y wyddoniaeth a chydnabod rôl bwysig niwclear. Fel y mae hi’n ei ddweud: “unai yr ydych yn erbyn newid yn yr hinsawdd neu yr ydych yn erbyn pŵer niwclear. Fedrwch chi ddim ei chael hi ddwy ffordd. ”

Fel eiriolwr gydol oes dros bolisïau gwyrdd, ni allwn gytuno mwy. Ond mae angen ymdrechion parhaus i yrru gwahaniaethau agwedd fel hyn ar draws cymdeithas.

Y mae’r sector niwclear wedi esblygu’n sylweddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf ac mae’n parhau i wneud hynny wrth flaenoriaethu technegau a thechnolegau arloesol newydd, ond nid yw hyn yn hysbys nac yn cael ei ddeall. Yn rhy aml, mae hyn yn creu gwagle i gamddealltwriaethau i ffynnu, a all ond gael ei drin ond drwy ymgysylltu cyfrifol a gynhelir mewn dull sy’n wirioneddol gyrraedd cynulleidfa amrywiol. Nid yw hyn, wrth gwrs yn rhywbeth unigryw i niwclear, na gweddill y sector ynni adnewyddadwy, ond gall fod yn wir am lawer o’r newidiadau a welwn o ganlyniad i ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg – er enghraifft gyda’r defnydd cynyddol o ddata dadansoddol a deallusrwydd artiffisial yn ein bywydau bob dydd.

Dyna ble mae rôl gwyddonwyr ac arbenigwyr yn sylfaenol; yn cael ei ystyried yn rheolaidd fel un o’r proffesiynau mwyaf dibynadwy, mae gwyddonwyr a’u cyngor yn hanfodol i gynorthwyo i bontio’r rhaniad technegol ac adeiladu ymddiriedaeth a hyder trwy ymgysylltu’n agored.

A dyna lle y gwelaf hefyd fod ein cyfrifoldeb yn LNC; nid yn unig wrth gefnogi technolegau ynni glân newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y DU, a’r byd, ond wrth archwilio potensial gwyddoniaeth niwclear i drawsnewid cymdeithas ym mhopeth o ofal cancr i ofota, gyda’r bobl hynny sy’n llai cyfarwydd â’r sector. Mae’r uchelgais hwn yn ymddangos yn ein Cynllun Strategol a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf.

Fel y mae COP26 yn nesáu, felly, nawr yw’r amser i siarad yn fwy nag erioed gyda’r rhai y tu hwnt i’n sector i sicrhau y gellir gwireddu’r cyfleoedd hyn. Gan ddianc o’r siambr adleisio niwclear a gweithio i ymhelaethu ar y negeseuon arbennig sy’n cael eu datblygu gan grwpiau traws-sector fel menter y Rhwydwaith Cenhedlaeth Ifanc (YGN) # SeroNetAngenNiwclear. Gan gyfuno ein gwybodaeth gyda sectorau eraill, croesawu prentisiaid a graddedigion newydd a sicrhau fod cymunedau ledled y DU yn deall effaith y technolegau hyn.

Y mae niwclear yn ddatrysiad clir a phresennol i’r argyfwng amgylcheddol cyfredol. Ac, fel y byddwn yn clywed drosodd a throsodd yn y cyfnod cyn COP26, nid oes mwy o amser i ‘w golli.