Tuesday 8 June 2021
Gwyddoniaeth Niwclear er Budd Cymdeithas – Ein Cynllun Strategol
Yr ydym yn ymfalchïo wrth lansio ein Cynllun Strategol, sy’n amlinellu sut y mae LNC, labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear, o fudd i gymdeithas trwy gyfrwng gwyddoniaeth niwclear.
Trwy gydol y cynllun, fe welwch fanylion graddfa ein huchelgais a’n hymrwymiad angenrheidiol i gynorthwyo i ddatrys heriau byd-eang mewn pedwar maes strategol:
- Ynni glân
- Iechyd a Meddygaeth Niwclear
- Adfer Amgylcheddol
- Diogelwch a Rhwystro Amlhau
Rhaglen waith yw hon a fydd, yn ogystal â chynorthwyo’r DU i gwrdd â sero-net erbyn 2050, yn cyflawni agenda’r llywodraeth o wneud y DU yn archbŵer gwyddoniaeth wrth ddod â swyddi medrus uchel i’r Gogledd Orllewin a chyfrannu’r adferiad economaidd ar ôl effaith y pandemig byd-eang.
Gobeithiwn y bydd ein Cynllun Strategol yn eich cyffroi, fel y mae’n ei wneud i ni i gyd, am ein potensial a’n huchelgais wrth i ni edrych tuag at #DyfodolClirNewydd.
Gallwch weld y cynllun yma: https://www.nnl.co.uk/strategicplan