National Nuclear Laboratory

Arweinwyr Diwydiannol

Yr Athro Anthony Banford

Cyfarwyddwr Ymchwil Diwydiannol CINDe Prif Dechnolegydd

Anthony yw’r Prif Dechnolegydd ar gyfer Rheoli Gwastraff a Digomisiynu (WM&D) yn y Labordy Niwclear Cenedlaethol ac mae’n aelod o Dîm Arweiniol y Labordy. Y mae’n gyfrifol am strategaeth dechnegol, gallu technegol a rhaglenni ymchwil a datblygu. Y mae wedi darparu prosiectau arwyddocaol trwy gydol cylchred gwaith niwclear ar gyfer cwsmeriaid y DU a rhyngwladol. Yn canolbwyntio ar Ymchwil a Datblygu sy’n cefnogi rheoli gwastraff ymbelydrol a digomisiynu ar hyn o bryd mae’n arwain y Ganolfan Digomisiynu Niwclear Arloesol (CINDe), gan ddod ag academia, LNC a diwydiant ynghyd i ffocysu a chymell ymchwil ac arloesi. Fel eiriolwr dros gydweithredu, mae’n cadeirio y Cymdeithas Nugenia ryngwladol ym maes Rheoli Gwastraff a Digomisiynu ac mae wedi sefydlu partneriaethau cydweithredol traws-sector a rhyngwladol fel ei gilydd. Mae Anthony yn Athro Gwadd Peirianneg yr Academi Frenhinol ar ‘Beirianneg Cemegol Niwclear y Genhedlaeth Nesaf’. Mae’n Beiriannydd Siartredig, Gwyddonydd Siartredig ac yn Gymrawd o Sefydliad y Peirianwyr Cemegol.

Ed Butcher

Rheolwr Strategaeth CINDe Arweinydd Technegol yn Workington

Mae Ed yn Gemegydd Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Cemeg gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn cymhwyso systemau mewngapsiwleiddio i drin gwastraff peryglus a niwclear. Y mae hyn wedi cynnwys gwaith ar ystod eang o wastraff niwclear sy’n deillio o weithrediadau safleoedd ailbrosesu a safleoedd adweithyddion yn y DU, Gorllewin a Dwyrain Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau. Ar hyn o bryd mae’n Uwch Reolwr Technoleg ar gyfer tîm LNC, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ansymudol. Mae Ed wedi cynnal cysylltiadau cryf â’r gymuned academaidd dechnegol trwy gydol ei yrfa ddiwydiannol, gan gyfuno gwaith ymchwil, goruchwylio myfyrwyr PhD a gweithredu fel darlithydd allanol arbenigol yn y maes rheoli gwastraff a digomisiynu ar amrywiaeth o gyrsiau. Y mae wedi bod yn oruchwyliwr prosiectau PhD o dan y rhaglenni DIAMOND a DISTINCTIVE ac ef yw arweinydd y thema Rheoli Gwastraff Integredig i raglen TRANSCEND.

Julija Konovalovaite

Rheolwr Gweithrediadau CINDe Peiriannydd Cemegol

Mae Julija yn beiriannydd cymwysedig EngD. Mae ganddi 5 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant niwclear yn canolbwyntio yn bennaf ar ficrobioleg ar raddfa fach ac ar raddfa fwy cefnogi gweithfeydd rigiau arbrofol. Mae cefndir academaidd Julija yn ymdrin â gwahanol agweddau ar beirianneg amgylcheddol. Yr oedd ei EngD (a gwblhawyd yn Labordy Workington y Labordy Niwclear Cenedlaethol) yn ymchwilio i ddulliau tyfiant a rheolaeth rhywogaethau syanobacteria a ddarganfyddwyd ym mhwll gwaddol a leolir ar safle Sellafield. Ar ôl ymuno â LNC fel Peiriannydd Cemegol y mae hi wedi gweithio ar sawl prosiect o fewn thema digomisiynu ac adfer gan gynnwys: llif hylif a daliannau soledau o fewn rigiau prawf anweithredol ar raddfa lawn a graddfa fach, nodweddu gronynnol a mwg wedi’i greu gan weithgareddau lleihau maint torri laser ar ddefnyddiau a gysylltir ag adeiladwaith blwch menig.