National Nuclear Laboratory

Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig

Mae gwyddoniaeth niwclear mewn sefyllfa i chwarae rhan allweddol yn nhrawsnewidiad ynni glân y DU. Er mwyn hybu dyfodol sero-net, yr ydym yn cyfuno rhwydwaith o dros 100 o sefydliadau byd-eang drwy’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig (AFCP).

A photograph of a lake and mountains in Cumbria. Over the photo is a white dynamic wave pattern overlaid with the logo for the Advanced Fuel Cycle Programme (AFCP).

Mae’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig yn arloesi strategaeth cydweithredol unigryw. Mae’r rhaglen nid yn unig yn cysylltu diwydiant, academia, labordai cenedlaethol a Llywodraeth, ond mae ei unarddeg o brosiectau technegol hefyd yn cydweithio’n agos i ddarparu arloesedd integredig. Drwy’r dull unedig hwn, mae’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig yn diogelu dyfodol defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg cylchred tanwydd ddatblygedig tra’n dyrchafu isadeiledd hanfodol, sgiliau a phobl am genedlaethau i ddod

Fel rhan o Raglen Arloesi Ynni £505m yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS), mae’r Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig yn cefnogi ymrwymiad y DU i gyrraedd sero-net erbyn 2050. Mae cylchred tanwydd datblygedig yn cynnwys ynni glân ac opsiynau ailgylchu cynaliadwy, sy’n golygu bod y Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig yn ystyried effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor gwyddor niwclear o fewn cymysgedd ynni glân y DU.

An infographic showing a white map of the UK over a green background. On the map are many blue dots indicating different locations across the country. Next to the map is a white circle with the text "Delivered by over 90 UK organisations".

Mewn partneriaeth â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, mae LNC yn ymfalchïo wrth arwain y Rhaglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig fel y buddsoddiad mwyaf i ymhollti niwclear y DU mewn cenhedlaeth. Mae’r rhaglen yn ehangu cyfleusterau rheng flaen presennol LNC, gan ymgysylltu â dros 175 o’n cydweithwyr er mwyn ei gyflawni a chryfhau ein perthynas traws-sector i hyrwyddo rôl gwyddor niwclear yn nhirwedd carbon- isel y DU sy’n esblygu.

Gyda’n gilydd, yr ydym ni’n #HybuSero-Net ar gyfer dyfodol ynni glân.

Darganfyddwch fwy ar wefan AFCP.