Y mae’r rhaglen i ategu a mireinio Hydwythedd a Gallu Alffa (ARC) cenedlaethol yn gydweithrediad hir dymor rhwng Llywodraeth y DU a’r sector niwclear, gan ddod â’r sefydliadau canlynol ynghyd:
- Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS)
- Awdurdod Digomisiynu Niwclear
- Sellafield Cyf.
- Safle Adfer Dounreay Cyf.
- Sefydliad Arfau Atomig
- Labordy Niwclear Cenedlaethol
- Swyddfa Rheoleiddio Niwclear
- Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear

Mae’r rhaglen yn ceisio cynnal a mireinio galluoedd sgiliau byd-enwog alffa y DU; y rhai sy’n ofynnol i weithio ar raglenni sy’n ymwneud â defnyddiau allyrru alffa.
Mae hyn yn cynnwys defnyddiau sy’n bodoli yn naturiol fel wraniwm, thoriwm, a radiwm yn ogystal ag elfennau wedi eu creu gan ddyn fel plwtoniwm ac americiwm.
Mae gan Hydwythedd a Gallu Alffa dri amcan craidd:
Cenhadaethau’r dyfodol
Sicrhau bod gan y DU y gallu a’r cymhwysedd i lansio rhaglenni alffa’r dyfodol trwy flaenoriaethu sectorau a pharatoi adnoddau.
Ymhlith yr enghreifftiau mae lansio rhaglen adfer alffa well a darparu strategaeth rheoli plwtoniwm Llywodraeth y DU.
Arweinyddiaeth fyd-eang
Sicrhau fod y DU yn cynnal ei safle fel arweinydd byd-eang wrth ddarparu a rheoli rhaglenni alffa cymhleth ar raddfa fawr.
Un elfen hanfodol o’r gwaith hwn yw cynnal a datblygu gweithlu gyda’r sgiliau arbenigol angenrheidiol
Mae creu cyfleoedd i gryfhau sgiliau gweithwyr presennol yn elfen bwysig o hyn ac felly mae gweithlu technegol Hydwythedd a Gallu Alffa yn ceisio cynigion ar gyfer:
- ymyriadau technegol
- bwrsariaethau teithio
- secondiad i sefydliadau partner Hydwythedd a Gallu Alffa
Gallwch gael manylion ar sut i ymgeisio yma
