Robin Taylor
Robin Taylor
Cefndir
Radio – gemegydd yw Robin Taylor gyda 25 o flynyddoedd o brofiad o arwain prosiectau ymchwil a datblygu niwclear sy’n gysylltiedig â chemeg actinid; yn arbennig ym meysydd ymwahanu, ailgylchu, nodweddu a storio.
Meysydd Arbenigedd Allweddol:
- Prosesau uwch ar gyfer ailbrosesu gweddillion tanwydd niwclear
- Cemeg ymwahanu actinid
- Storio ac ail-drin ocsid actinid
Cyflawniadau Allweddol:
- Gwobr Bill Newton, Grŵp Radio-gemeg, Cymdeithas Frenhinol Cemeg (2009)
- Cemegydd Siartredig a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol Cemeg (2004)
- Gwobrau Cwmni (2005: Arloesi, 2012: Unigolyn)
- Gwobr Prif Wyddonydd (2017)
- Golygydd “Reprocessing and Recycling of Spent Nuclear Fuel”, Elsevier Woodhead Publishing Series in Energy no.79 (WPE79), ISBN 978-1-78242-212-9 (2015)
- Golygydd Cynorthwyol i’r Cyfnodolyn Ffisegol Ewropeaidd - Gwyddoniaeth a Thechnoleg Niwclear
Cyhoeddiadau Allweddol:
- G. P. Horne et al., Plutonium and Americium Alpha Radiolysis of Nitric Acid Solutions, J. Phys. Chem B, 121, 883-889 (2017).
- R. Taylor, Reaction: a role for actinide chemists, Chem 1, 662-663 (2016).
- M. Carrott, et al., “TRU-SANEX”: a variation on the EURO-GANEX and i-SANEX processes for heterogeneous recycling of actinides Np-Cm, Sep. Sci. Technol. 51, 2198-2213 (2016).
- H. Chen, et al., Development and validation of a flowsheet simulation model for neptunium extraction in an advanced PUREX process, Solv. Extr. Ion Exch. 34, 297-321 (2016).
- Z. Maher, et al., Am and Pu Association with Magnesium Hydroxide Colloids in Alkaline Nuclear Industry Process Environments, J. Nucl. Mater. 468, 84-96 (2016).
- R. Taylor, et al., Development of actinide separation processes for future nuclear fuel cycles in Europe, Nuclear Futures, 11, 38-43 (2015).
- R. M. Orr, et al., A review of plutonium oxalate decomposition reactions and effects of decomposition temperature on the surface area of the plutonium dioxide product, J. Nucl. Mater. 733-756 (2015).
- M. Carrott, et al., Distribution of plutonium, americium and interfering fission products between nitric acid and a mixed organic phase of TODGA and DMDOHEMA in kerosene, and implications for the design of the “EURO-GANEX” process, Hydrometallurgy 152, 139-148, (2015).
- M. Carrott, et al., Development of a new flowsheet for co-separating the transuranic actinides: the “EURO-GANEX” process, Solv. Extr. Ion Exch. 32(5), 447-467 (2014).
- H. E. Sims, et al., Hydrogen yields from water on the surface of plutonium dioxide, J. Nucl. Mater. 437, 359-364 (2013).
- R. J. Taylor, et al., Progress towards the full recovery of neptunium in an Advanced PUREX process, Solv. Extr. Ion Exch., 31, 442-462 (2013).
- M. J. Sarsfield, et al., Raman spectroscopy of plutonium dioxide and related materials, Journal of Nuclear Materials 427, 333-342 (2012).
- J. Brown, et al., Plutonium loading of prospective grouped actinide extraction (GANEX) solvent systems based on diglycolamide extractants, Solv. Extr. Ion Exch., 30, 127-141 (2012).
- C. R. Gregson, et al., Characterisation of plutonium species in alkaline liquors sampled from a UK legacy nuclear fuel storage pond, Analytical Methods 3, 1957-1968 (2011).
- C. R. Gregson, et al., Combined electron microscopy and vibrational spectroscopy study of corroded Magnox sludge from a legacy spent nuclear fuel storage pond, Journal of Nuclear Materials 412, 145–156 (2011).
- M. J. Carrott, et al., Oxidation-reduction reactions of simple hydroxamic acids and plutonium (IV) ions in nitric acid, Radiochim. Acta, 96, 333-344 (2008).
- C. Talbot-Eeckelaars, et al., Luminescence from Neptunyl (VI) species in solution, J. Am. Chem. Soc. 129, 2442-2443 (2007).
- H. Steele and R. J. Taylor, A Theoretical Study of the Disproportionation Reaction of the Pentavalent Actinyl Ions, Inorg. Chem., 46, 6311-6318 (2007).
- R. J. Taylor, et al., The applications of formo- and aceto- hydroxamic acids in nuclear fuel reprocessing, J. Alloys & Compounds, 271-273, 534-537 (1998).
- 19. R. J. Taylor and I. May, Advances in actinide and Tc kinetics for applications in process flowsheet modelling, Sep. Sci. Tech., 36, 1225-1240 (2001).
Colin English
Colin English
Cefndir
Mae gan Colin English dros 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes Ymchwil a Datblygu o fewn y diwydiant niwclear ar gyfer Technoleg UKAEA, AEA a’r LNC. Mae wedi gweithio ym maes nodweddu microsaernïol, effeithiau ymbelydredd mewn soledau a diraddio cydrannau saernïol o fewn y gwasanaeth. Mae hyn wedi cynnwys ymdriniaeth weithredol mewn Ymchwil a Datblygu, datblygu strategol a rheolaeth o raglenni ymchwil a datblygu, ymgynghori, adolygiad arbenigol a gweithgareddau rheoli llinell. Mae Colin hefyd yn Athro Gwadd yn Adran Defnyddiau Prifysgol Rhydychen.
Meysydd Arbenigedd Allweddol:
Drwy gydol ei yrfa mae Colin wedi datblygu profiad sylweddol o effeithiau arbelydriad mewn defnyddiau saernïol yn ystod ei wasanaeth mewn amgylchedd adweithydd. Mae hyn yn cynnwys ymwneud â'r materion sy'n gysylltiedig â’r defnydd o ddefnyddiau mewn cyfansoddion adweithyddion thermol, cyflym a’r rhai thermoniwclear arfaethedig. Ei arbenigedd yw mecanwaith creu difrod ymbelydrol mewn metalau, breuo llestr pwysedd adweithydd (RPV), effeithiau arbelydriad mewn aloi sirconiwm, a mecanwaith hollti pwysedd cyrydiad mewn duroedd awstenitig.
Mae Colin yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel arbenigwr breuo llestr pwysedd adweithydd ac ef oedd cadeirydd cyntaf y Grŵp Rhyngwladol ar gyfer mecanweithiau difrod ymbelydrol mewn llestri pwysedd adweithyddion (IGRDM). Yr oedd hefyd yn Ymgynghorwr Gwyddonol i’r Rhwydwaith Ames Ewropeaidd. Y mae wedi cyd-ysgrifennu dros 120 o gyhoeddiadau ac wedi cyflwyno nifer o bapurau gwahoddedig yn ei faes arbenigol.
Yn fwy diweddar mae wedi chwarae rhan mewn sawl menter i gynnal a datblygu arbenigedd technegol o fewn LNC, gan gynnwys y Rhaglen Datblygu Rhagoriaeth Dechnegol (TEPD) a chyd-gadeirio Pwyllgor Technegol LNC sydd newydd gael ei ffurfio.
Cyflawniadau Allweddol:
Mae Colin wedi chwarae rhan bwysig mewn nifer o brosiectau a ariennir gan gwsmeriaid gyda'r nod o ddarparu dealltwriaeth mewn mecanwaith diraddiad defnydd penodol. Mae'r canlynol yn cynnig enghreifftiau o helaethrwydd y gwaith.
- Yr oedd yn Reolwr prosiect ar gyfer rhaglen Llywodraeth y DU ar fesureg ficrosaernïol metelau ac aloion, ac yn gydlynydd prosiect Ewropeaidd 5FP PISA (11 partner) (Effaith Ffosfforws ar Heneiddio Dur). Roedd y prosiect hwn yn cynnwys caffael data cydberthynol ar arwahanu a breuo P, cymhariaethau rhwng technegau arbrofi gwahanol a datblygu modelu arwahanu.
- Mae wedi chwarae rhan ganolog mewn nifer o raglenni arbrofol gyda'r bwriad o sefydlu dirnadaeth o fecanwaith breuo arbelydru dur llestr pwysedd adweithydd.
- Cyfraniad pwysig diweddar yw ei gyfraniad yn natblygiad y prosiect “Cymuned sy’n Heneiddio”. Yn y prosiect hwn mae LNC a nifer o bartneriaid eraill yn y DU sydd â diddordeb mewn gweithrediad gwaith niwclear yn datblygu safle cipio gwybodaeth / datblygu arbenigedd ar freuo Dur llestr pwysedd adweithydd. Mae'r maes hwn o ddiddordeb allweddol i’r diwydiant niwclear yn y DU, ac yn un yr oedd perygl i arbenigedd gael ei golli wrth i unigolion allweddol ymddeol
- Mae ef wedi chwarae rhan Adolygydd Cymheiriaid allanol i’r DU a chyfundrefnau tramor ar faterion a gysylltir gyda datblygiad perthnasau difrod dos ar gyfer llestri pwysedd adweithydd (RPVs).
Swyddi Allweddol
1988 – 1991: Cadeirydd Grŵp Rhyngwladol ar fecanwaith llestri pwysedd breuo dur (IGRDM).
1986 to 1990 Cynrychiolydd Technoleg AEA ar Grŵp Arbenigwyr NET ar Ddefnyddiau Strwythurol (NET yw Next European Torus).
1985 to 1990 Prif Swyddog Cydlynu'r Awdurdod Rhaglen Effeithiau Ymbelydredd Sylfaenol.
1985 to 1998 Arweinydd Grŵp, Grŵp Effeithiau Ymbelydrol, Adran Datblygu Defnyddiau, Labordy Harwell (a'i Grwpiau / Adrannau olynol).
2004 i’r Presennol: Uwch Gymrawd Defnyddiau LNC.
Cyhoeddiadau Allweddol:
Displacement Cascade Collapse At Low Temperatures In Cu3Au, T.J. Black, M.L. Jenkins, C.A. English and M.A. Kirk, Proc. Roy.Soc., A409, 177, (1986).
Investigation Of Gundremmingen RPV Archive Material Irradiated In Light-Water And Heavy-Water Reactors. C.A. English, W.J. Phythian, J.T. Buswell, J.R. Hawthorne, P.H.N. Ray in Effects of Radiation on Materials: 15th International Symposium, ASTM STP 1125, Eds. R.E. Stoller, A.S.Kumar and D.S.Gelles, pub. ASTM, Philadelphia, 1992, pp 93-116.
Views Of TAGSI On The Principles Underlying The Assessment Of The Mechanical Properties Of Irradiated Ferritic Steel Reactor Pressure Vessels, J.F.Knott, and C.A.English, Intl. J. Pressure Vessels and Piping, 76 (1999), 891-908.
Embrittlement Of Reactor Pressure Vessel Steels, C.A. English and J.M Hyde, in Comprehensive Structural Integrity, Volume 6, Eds I. Milne, R.O. Ritchie and B. Karihaloo, pub. Elsevier, ISBN 0-08-043749-4 (2003) pp. 351-398.
Critical Review Of Through-Wall Attenuation Of Mechanical Properties In RPV Steels, C.A. English,W. L. Server, and S. T. Rosinski, Journal of ASTM International, April 2004, Vol. 1, No. 4.
Views Of TAGSI On The Effects Of Gamma Irradiation On The Mechanical Properties Of Irradiated Ferritic Steel Reactor Pressure Vessels, J.F.Knott, C.A.English, D.R.Weaver and D.P.G Lidbury Intl J Pressure Vessels and Piping 82, (12), 929-940 (2005).
Studies Regarding Corrosion Mechanisms in Zirconium Alloys. Preuss M., Frankel P., Lozano-Perez S., Hudson D., Polatidis E., Ni N., Wei J., English C., Storer S., Chong K., Fitzpatrick M., Wang P., Smith J., Grovenor C., Smith G., Sykes J., Cottis B., Lyon S., Hallstadius L., Comstock B., Ambard A., Blat-Yrieix M. October 2011 -- JAI Volume 8, Issue 910.1520/JAI103246.
Study of Lüders phenomena in reactor pressure vessel steels. D.W. Beardsmore, J. Quinta da Fonseca, J. Romero, C.A. English, , , S.R. Ortner, J. Sharples, A.H. Sherry, M.A. Wilkes. Materials Science and Engineering: A Volume 588, 20 December 2013, Pages 151–166.
Microstructural Characterisation Techniques for Mechanistic Understanding of Irradiation Damage”, in “Irradiation Embrittlement of Reactor Pressure Vessels (RPVs) in Nuclear Power Plants“, J.M. Hyde and C.A. English, “Woodhead Publishing Series in Energy: Number 26, 2014 (pp. 211-294) ISBN978-1-84569-967-3.
“Study Of Zircaloy Corrosion To Develop Mechanistic Understanding”, S. Ortner, H. Swan, A. Laferrere, C. English, J. Hyde, P. Styman, K. Jurkschat, H. Hulme, A. Pantelli, M. Gass, V. Allen, P. Frankel, Proceedings of Fontevraud 8, Oct 2014
Jonathan Hyde
Jonathan Hyde
Cefndir
Ymunodd Jonathan Hyde â'r diwydiant niwclear yn 1995 ar ôl cwblhau cymrodoriaeth ôl-ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen a gweithio fel gwyddonydd ymchwil gwadd yn Labordy Cenedlaethol Oak Ridge. Ers hynny, y mae wedi gweithio i Dechnoleg UKAEA, AEA a'r Labordy Niwclear Cenedlaethol, gan ymgymryd â nifer o rolau gan gynnwys Ymchwil a Datblygu a rheolaeth. Ar hyn o bryd y mae'n Brif Swyddog Technolegol ar gyfer y busnes Cymorth Adweithydd a Gweithrediadau ac yn Uwch Gymrawd mewn Defnyddiau Niwclear. Yn ogystal, y mae'n cydweithio ac academia ag yn cyfrannu i waith sawl gweithgor technegol a byrddau cynghori. Y mae wedi cyd-ysgrifennu 90 o gyhoeddiadau, yn Beiriannydd Siartredig ac yn Gymrawd o’r IOMMM.
Meysydd Arbenigedd Allweddol:
Mae Jonathan yn arbenigwr ar nodweddu microsaernïaeth defnyddiau a datblygu dealltwriaeth mecanyddol o ddifrod ymbelydredd.
Cyflawniadau Allweddol:
Mae cyflawniadau Jonathan yn cynnwys:
- Datblygu llawer o'r technegau ystadegol sydd yn cael eu defnyddio’n rheolaidd ledled y byd i ddadansoddi data o Demograffeg Ymchwilio Atom.
- Hyrwyddo'r defnydd o gyfuniad o dechnegau microsaernïol i gynnal dealltwriaeth fecanistaidd o gyflwr diraddiedig defnyddiau sydd wedi arwain at nifer o raglenni ymchwil ryngwladol
- Cyflwyno gwobr flynyddol o fewn LNC - Medal Lawrence - am y Cyhoeddiad Gwyddonol / Technegol Allanol Gorau (BEST)
- “Arweinydd Ysbrydoledig” LNC, 2017
Swyddi Allweddol
LNC
- 2010 – 2014: Rheolwr Busnes
- 2012 – Prif Dechnolegydd a Chymrawd Labordy
- 2015 – Uwch Gymrawd
Allanol
- 1997 – presennol: Cydlynydd Technegol Ardal (microsaernïol a newidynnau metalegol) y Grŵp Rhyngwladol ar Fecanwaith Niwed Ymbelydrol (IGRDM)
- 2007 – presennol: Cymrawd Diwydiannol Wolfson ac yna Uwch Gymrawd Gwadd, Prifysgol Rhydychen
- 2010 – presennol: Cynrychiolydd Gwyddoniaeth Niwclear ar Bwyllgor Gwyddoniaeth Ddiwydiannol Diamond (DISCo) sy'n darparu cyngor i’r safle syncrotron UK Diamond
- 2012 – presennol: Athro Gwadd i’r Sefydliad Niwclear Dalton ym Mhrifysgol Manceinion
- 2014 – presennol: Bwrdd Cynghori Diwydiannol i Ymasiad CDT
- 2015 – presennol: Athro Gwadd Ysgol Beirianneg, Prifysgol Lerpwl
Cyhoeddiadau Allweddol:
- E.A. Marquis and J.M. Hyde, "Atomic Scale Analysis of Solute Behaviours by Atom-Probe Tomography", Materials Science and Engineering R:Reports, volume 69, issues 4-5, July 2010, pp. 37-62
- J.M. Hyde, M.G. Burke, B. Gault, D.W. Saxey, P. Styman, K.B. Wilford, T.J. Williams, Atom probe tomography of reactor pressure vessel steels: An analysis of data integrity, Ultramicroscopy 111, 676-682, 2011.
- C.A. English and J.M. Hyde, 'Radiation Damage of Reactor Pressure Vessel Steels", Comprehensive Nuclear Material, Elsevier, Ed. R. Konings, 2012, ISBN: 9780080560274.
- J.M. Hyde and C.A. Engish, “Microstructural Characterisation Techniques for Mechanistic Understanding of Irradiation Damage”, in “Irradiation Embrittlement of Reactor Pressure Vessels (RPVs) in Nuclear Power Plants“, Woodhead Publishing Series in Energy: Number 26, 2014 (pp. 211-294) ISBN978-1-84569-967-3
- J.M. Hyde, M.G. Burke, G.D.W. Smith, P. Styman, H. Swan, K. Wilford, “Uncertainties and assumptions associated with APT and SANS characterisation of irradiation damage in RPV Steels”, Journal of Nuclear Materials 449 (2014) 308–314
- P. D. Styman, J. M. Hyde, D. Parfitt, K. Wilford, M.G. Burke, C.A. English and P. Efsing, “Post-Irradiation Annealing of Ni-Mn-Si-Enriched Clusters in a Neutron-Irradiated RPV Steel Using Atom Probe Tomography”, J. Nuc. Materials, Volume 459, April 2015, Pages 127–134
- R.M. Boothby, J.M. Hyde, H. Swan, D. Parfitt, K. Wilford and P. Lindner, “SANS Examination of Irradiated RPV Steel Welds during In-situ Annealing”, Journal of Nuclear Materials 461, 45-50, 2015
- J.M. Hyde, P. Styman, H. Weekes et al., "Analysis of Radiation Damage in Light Water Reactors: Development of Standard Protocols for the Analysis of Atom Probe Data". Microscopy and Microanalysis. 2017 Apr;23(2):366-375. doi: 10.1017/S1431927616012678.
- J.M. Hyde and K. Wilford, “Correlating Irradiation-Induced Solute Clustering with Changes of Hardness in Low and High Flux Reactor Pressure Vessel Steels”, Microscopy and Microanalysis. 23. (2017) 632-633. 10.1017/S1431927617003828.
Deborah Hill
Deborah Hill
Penodwyd Deborah Hill fel Cymrawd yng Ngwanwyn 2013 ac wedi hynny yn Uwch Gymrawd yn ystod Haf 2017, gan ymdrin â maes Diogelwch Critigolrwydd. Ar hyn o bryd, hi yw Arweinydd Critigolrwydd Technegol o fewn y tîm Diogelwch, Amddiffyniad a Gwarchod FCS, a leolir yn Labordy Preston.
Cefndir
Ar ôl cwblhau PhD mewn ffiseg pelydr-x ym Mhrifysgol Warwick, ymunodd Deborah â Thanwydd Niwclear Prydeinig (un o'r cwmnïau a ragflaenodd y LNC) yn 1997 fel hyfforddai graddedig yn nhîm Critigolrwydd. Ers hynny mae hi wedi casglu dros 18 mlynedd o brofiad yn darparu mewnbwn critigolrwydd technegol i amryw o brosiectau ar gyfer sawl cwsmer yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae hi'n Brif Ymgynghorydd Diogelwch Critigolrwydd ac yn Arweinydd Critigolrwydd Technegol yn y tîm Diogelwch, Amddiffyn a Gwarchod; mae hi'n gyfrifol am arweinyddiaeth technegol tîm helaeth o arbenigwyr critigolrwydd, gan gynnwys anghenion hyfforddiant technegol a sicrwydd yn ogystal â llunio cyfeiriad technegol y tîm. Fe'i penodwyd yn Gymrawd Labordy Diogelwch Critigolrwydd yn gynnar yn 2013.
Meysydd Arbenigedd Allweddol:
Trwy gydol ei gyrfa, mae Deborah wedi datblygu cryn brofiad mewn arwain a rheoli ystod eang o gefnogaeth critigolrwydd gweithredol ar gyfer amryw o gwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys llunio polisi safle a chysylltu â'r rheolyddion niwclear. Gan wneud defnydd o’r profiad hwn, mae hi wedi chwarae rhan amlwg yn natblygiad methodoleg achosion diogelwch ac arweiniad / safonau diwydiannol. Yn awr, fe’i cydnabyddir fel arbenigwr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes diogelwch critigolrwydd, ar ôl dal nifer o swyddi rheolaethol ar bwyllgorau critigolrwydd allweddol y DU a'r UD.
Fel rhan o'i rôl fel Cymrawd Labordy, y mae hi wedi bod yn gysylltiedig â gyrru agenda sgiliau y LNC; y mae hi wedi bod yn gyfrifol am fewnbwn y gymuned dechnegol i'r Rhaglen Datblygu Graddedigion ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cymuned Mentora Ymarferiad y LNC.
Cyflawniadau Allweddol
Mae Deborah wedi cyflawni y canlynol:
- Chwaraeodd ran allweddol mewn cynyddu’n sylweddol niferoedd a gallu'r tîm critigolrwydd y LNC yn y 2000au hwyr.
- Cadeirydd Gweithgor y DU ar Critigolrwydd
- Wedi dal nifer o swyddi i’r Gymdeithas Niwclear Americanaidd (ANS), Is-Adran Diogelwch Critigolrwydd Niwclear (NCSD). Ar hyn o bryd, hi yw Cadeirydd Rhaglen yr Is-Adran Diogelwch Critigolrwydd Niwclear a hi yw’r unig ymgeisydd i swydd Is-gadeirydd/Cadeirydd – Etholedig yr Is-adran yn 2016/17.
- Hi oedd y gyntaf y dyfarnwyd Gwobr Dylanwad am Wasanaeth y LNC iddi yng Ngwanwyn 2012
Swyddi Allweddol:
2006–2013: LNC Rheolwr Tîm Technegol Critigolrwydd ac yna Rheolwr Busnes Critigolrwydd LNC
2013–presennol: LNC Rheolwr Technegol Critigolrwydd ac yna Arweinydd Technegol Crtigolrwydd LNC
2013–2017: LNC Cymrawd Diogelwch Critigolrwydd
2017–presennol: LNC Uwch Gymrawd Diogelwch Critigolrwydd
2006–2015: Cadeirydd Gweithgor Critigolrwydd y DU
2009–presennol: Rolau amrywiol i’r Is-Adran Diogelwch Critigolrwydd Niwclear y Gymdeithas Niwclear Americanaidd, gan gynnwys y Pwyllgor Gweithredol (2009 - 2012), Ysgrifennydd (2012/13), Trysorydd (2013/14), Cadeirydd y Rhaglen (2015–2017), Is-Gadeirydd / Cadeirydd-Etholedig (2016/17) , Cadeirydd (2017/18) a Chyd-Gadeirydd Grŵp Gweithredol 8-20 y Gymdeithas Niwclear Americanaidd (2015-presennol).
Cyhoeddiadau Allweddol:
- D.A. Hill, Proc. International Conference on Nuclear Criticality Safety, “The Role of Integrated Criticality Training and Support to the Refurbishment of the Enriched Uranium Residues Recovery Plant at Westinghouse, Springfields Fuels Limited”, p200 (2007).
- D.A. Hill, Proc. Nuclear Criticality Safety Division Topical Meeting on Realism, Robustness and the Nuclear Renaissance, “Criticality and Fire-Fighting – Recent Developments at Westinghouse, SFL” (2009).
- J. Venner, S.B. Clark and D.A. Hill, Proc. International Conference on Nuclear Criticality Safety, “Optimising Storage Arrangements for Low Enriched Uranic Residues Subject to Limited Slab Loading Control” (2011).
- D.A. Hill, Proc. International Conference on Nuclear Criticality Safety, “Recent Activities of the UK Working Party on Criticality” (2015).
- D.A. Hill & T.G. Wadeson, Proc. International Conference on Nuclear Criticality Safety, “The Application of ALARP to Legacy Residues Recovery Processes on the Springfields Site in the United Kingdom” (2015).