National Nuclear Laboratory

Sut yr ydym yn ymgysylltu

Mae ein gweithgareddau ymgysylltu yn eang a phellgyrhaeddol.

Yr ydym yn dehongli ac yn arwain ar yr heriau allweddol sy’n wynebu diwydiant a sut y gall academia fynd i’r afael â’r heriau hynny. Yr ydym yn cydweithredu â’r byd academaidd i ddarparu arloesedd a gostyngiadau mewn costau i gwsmeriaid. Yr ydym yn gosod ac yn goruchwylio prosiectau ymchwil.

Yn ogystal, mae LNC yn cynnal ac yn cefnogi canolfannau ymchwil a chanolfannau hyfforddi doethuriaethau. Yr ydym yn galluogi ymchwilwyr o’r DU ac yn rhyngwladol i gael mynediad i’n cyfleusterau, ein hoffer, ein defnyddiau a’n harbenigwyr i hyrwyddo’r gwyddoniaeth a’r peirianneg gorau. Yr ydym yn gweithio gyda’r byd academaidd i ddenu pobl i’r gyrfaoedd cyffrous sydd ar gael yn y sector ynni niwclear. Yr ydym yn addysgu ac yn arholi ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Yr ydym yn cydweddu syniadau newydd a thechnolegau’r dyfodol i ddatrys problemau cwsmeriaid.

DYSGU

Mae 19 o staff LNC yn dysgu mewn 9 Prifysgol

CYNNAL A CHEFNOGI

Cynnal 1 Canolfan Ymchwil Gynhwysol a chefnogi 3 hwb a 5 CDT a 2 raglen grantiau o bwys