National Nuclear Laboratory

Windscale

Cymerwch gipolwg rhithiol y tu mewn i Labordy Windscale y LNC

Wedi’i leoli yn Sellafield, mae Labordy Windscale LNC yn gyfleuster unigryw a all gynnig hyblygrwydd dihafal wrth ddarparu gwasanaethau ymdrin ac archwilio angenrheidiol i gwsmeriaid, gan gynnwys:

  • Archwiliad Ôl-arbelydru (PIE) o danwydd niwclear a defnyddiau arbelydredig
  • Prosesu a Rheoli Gwastraff Ymbelydrol
  • Trin a Rheoli Ffynonellau Ymbelydrol wedi’u Selio
  • Dadansoddi Defnyddiau
  • Profi Mecanyddol

Defnyddir Labordy Windscale ar gyfer archwilio dinistriol ac anninistriol o danwydd adweithydd a defnyddiau arbelydredig. Mae gan y Labordy gyfleusterau hefyd wedi eu hymroi i brosesu a rheoli gwastraff ymbelydrol o ffynonellau wedi’u selio.

Mae’r Labordy yn cynnwys:

  • 13 o gelloedd gorchuddiedig (ogofâu) gyda mesuriadau nodweddiadol o 11m o led, 2.5m o ddyfnder a 4m o uchder
  • Coridor Gweithredol sy’n caniatáu symud defnyddiau yn cysylltu pob cell
  • Gorchuddion concrid (lefelau beta / gamma)
  • Craeniau gwasanaethu sy’n gallu cludo fflasgiau hyd at 60te