National Nuclear Laboratory

Galwad am Gynigion

Mae yna rai cyfleoedd cyffrous ar gael i unrhyw un (sefydliadau neu unigolion) a fuasai’n hoffi ymhel ag un o heriau mwyaf y diwydiant niwclear.

Mae cyfleoedd ar gael i ennill profiad, sgiliau a gwybodaeth fel rhan o’r rhaglen Hydwythedd a Gallu Alffa (ARC) – rhaglen waith genedlaethol hanfodol.

Mae Hydwythedd a Gallu Alffa yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a’r sector niwclear, yn ceisio sicrhau fod gan y DU y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau cenadaethau presennol ac yn y dyfodol. Mae’n hanfodol fod sgiliau y gweithlu niwclear presennol yn cael eu datblygu.

Mae gweithlu technegol Hydwythedd a Gallu Alffa yn edrych am gynigion gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn creu cyfleoedd i wella sgiliau.

Mae tair ffordd i gymryd rhan:

1) Ymyriadau technegol

Prosiectau wedi eu cyllido neu gydweithrediadau yw’r rhain sy’n caniatáu datblygu sgiliau newydd a gwybodaeth newydd o fewn sefydliadau partner Hydwythedd a Gallu Alffa neu sefydliadau sy’n gysylltiedig ag alffa.

2) Bwrsariaethau teithio

Cyllido tuag at gost mynychu ymweliadau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hyfforddi yn ymwneud â datblygu sgiliau alffa, neu ledaenu gwybodaeth berthnasol, boed hwnnw’n dechnegol neu’n ymarferol

3) Grantiau secondiad

Cefnogaeth i unigolion i dreulio amser yn gweithio yng nghyfleusterau partneriaethau Hydwythedd a Gallu Alffa i wella eu hymchwil neu sgiliau

Gall unrhyw un sy’n dymuno ymgeisio am fwrsariaeth neu secondiad wneud hynny gyda’r ffurflen gais hon:

Er mwyn datblygu ymyriad technegol sydd fwyaf tebygol o gael ei gymeradwyo mae’n syniad da i ymgynghori gydag arbenigwr technegol Hydwythedd a Gallu Alffa, cyn gwneud cais. Yn y lle cyntaf dylid cyfeirio cyswllt o’r fath at Cassie Staines yn y Labordy Niwclear Cenedlaethol, a fydd yn falch o’ch cynorthwyo neu eich cyfeirio at gydweithiwr a all wneud hynny:

Gellir cysylltu â Cassie trwy e-bost yn: cassie.staines@uknnl.com