National Nuclear Laboratory

Labordy Canolog

Mae ein Labordy Canolog yn gyfleuster ymchwil niwclear o’r radd flaenaf gwerth £ 250 miliwn. Y mae’n gyfleuster niwclear mwyaf datblygedig yn y byd. Wedi ei gynllunio o gwmpas hyblygrwydd a chydweithredu, y mae’n cefnogi adeiladu adweithyddion newydd a gweithredu adweithyddion yn ogystal â digomisiynu, glanhau a phrosesu tanwydd.

Rhan o oruchwylion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol yw darparu ein cyfleusterau rheng flaen i’r gymuned wyddonol ehangach. Ynghyd â’n dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y dyfodol a’n hymrwymiad i aros ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth niwclear yr ydym yn ymfalchio wrth agor ein drysau i dimau academaidd o Brifysgol Manceinion a Phrifysgol Lerpwl.

Mae gwneud hyn yn caniatáu i brifysgolion a myfyrwyr gael mwy o gyfleoedd i ddatblygu elfennau ymchwil pwysig.

Ble i gael hyd i ni:

Labordy Niwclear Cenedlaethol
Labordy Canolog
Sellafield
Seascale
Cumbria
CA20 1PG
Ffôn: +44 (0)1946 779 000

Noder: Mae gweithgareddau’r LNC yn ei gyfleusterau sydd ar brydles yn Springfields (Lab Preston) a Sellafield (Lab Canolog a Lab Windscale) yn cael eu gweithredu o dan gyfundrefn Gorchymyn a Rheoli gan Springfields Fuels Ltd a Sellafield Ltd yn y drefn honno. Mae’r gweithgareddau a wneir o dan y cyfundrefnau hynny wedi’u cyfyngu gan y Trwyddedau Amgylcheddol a Thrwyddedau Safle Niwclear perthnasol a ddelir gan Springfields Fuels Ltd a Sellafield Ltd.