- Prifysgol Lerpwl – Adran Peirianneg Trydanol ac Electronig
- Goruchwylwyr Academaidd: Xin Tu, Karl Whittle
- Goruchwyliwr Diwydiannol: Jay Dunsford
- Llinell amser y Prosiect: Hydref 2018 i Medi 2022
- Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Plasma-Catalyddu, Triniaeth gwastraff hylif organig, Rhyngweithiadau hylif plasma
- Cymwysterau Academaidd: Meistr mewn Cemeg gyda Blwyddyn Dramor – Prifysgol Caerdydd
- tudalen LinkedIn
OCSIDIAD CATALYDDU-PLASMA HYBRID TODDYDDION ORGANIG O DDIWYDIANT NIWCLEAR
Y mae swm sylweddol o wastraff hylif arbelydredig wedi’i storio o ganlyniad i ddiffyg opsiynau trin. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar gyfuno plasma anthermol a chatalyddu i ddatblygu dull o drin y gwastraff hylif organig hwn. Mae plasma anthermol yn darparu dewis deniadol arall i ddull dadelfennu confensiynol. Mae cyfraddau adweithio uchel a chyrhaeddiad cyflyrau sefydlog cyflym mewn prosesu plasma yn caniatáu dechrau a chau lawr cyflym o’r broses o’i chymharu â thriniaethau thermol eraill, sy’n lleihau cost ynni cyffredinol yn sylweddol a chynnig dull hyblyg ac addawol i gymwysiadau diwydiannol. Mae cynnwys catalyddion ymhellach yn cynnig y potensial o gynhyrchu effaith synergyddol, sy’n hyrwyddo’r broses plasma yn sylweddol. Ochr yn ochr â’m profion plasma arbrofol, bydd modelu cinetig cemegol plasma yn cael ei ddatblygu, wedi ei gyfuno â diagnosteg plasma datblygedig, i’m cynorthwyo i ddeall rolau gwahanol rywogaethau adweitheddol gwahanol mewn ocsideiddio plasma, yn ogystal â’r llwybrau adweithio a mecanwaith posibl sy’n gysylltiedig â’r broses plasma-catalyddu hybrid. Rwy’n wirioneddol mwynhau’r prosiect hwn, a gweithio gyda’r LNC ar gyfer fy PhD, gan ei fod yn caniatáu i mi wneud gwaith ryngadrannol yn ogystal â gweithio gyda nifer o arbenigwyr sy’n gwneud gwaith technolegol o’r radd flaenaf yn eu priod feysydd.