Wedi’i leoli yn Sellafield, mae Labordy Windscale LNC yn gyfleuster unigryw a all gynnig hyblygrwydd dihafal wrth ddarparu gwasanaethau ymdrin ac archwilio angenrheidiol i gwsmeriaid, gan gynnwys:
- Archwiliad Ôl-arbelydru (PIE) o danwydd niwclear a defnyddiau arbelydredig
- Prosesu a Rheoli Gwastraff Ymbelydrol
- Trin a Rheoli Ffynonellau Ymbelydrol wedi’u Selio
- Dadansoddi Defnyddiau
- Profi Mecanyddol
Defnyddir Labordy Windscale ar gyfer archwilio dinistriol ac anninistriol o danwydd adweithydd a defnyddiau arbelydredig. Mae gan y Labordy gyfleusterau hefyd wedi eu hymroi i brosesu a rheoli gwastraff ymbelydrol o ffynonellau wedi’u selio.
Mae’r Labordy yn cynnwys:
- 13 o gelloedd gorchuddiedig (ogofâu) gyda mesuriadau nodweddiadol o 11m o led, 2.5m o ddyfnder a 4m o uchder
- Coridor Gweithredol sy’n caniatáu symud defnyddiau yn cysylltu pob cell
- Gorchuddion concrid (lefelau beta / gamma)
- Craeniau gwasanaethu sy’n gallu cludo fflasgiau hyd at 60te