Steve Graham
Steve Graham
Penodwyd Steve Graham fel Cymrawd Hydroligion Thermol Niwclear y LNC yn Hydref 2020. Mae gan Steve dros 40 mlynedd o brofiad mewn cymhwyso trosglwyddiad gwres a modelu llifeiriant hylif yn y diwydiant niwclear sydd â hanes o waith arloesol, arobryn yn y maes hwn. Fel Prif Wyddonydd LNC ar gyfer gallu trosglwyddo gwres a modelu llifeiriant hylif, y mae'n gyfrifol am arweiniad technegol o’r maes sy’n llunio datblygiad technegol, adolygiad cymheiriaid, mentora staff a chreu ac arwain timau technegol effeithiol.
Mae gan Steve ddiddordeb penodol yn ansawdd gwyddoniaeth a meintioli ansicrwydd gwyddonol drwy ymchwil y mae'n ymdrin ag ef yn y datblygiad o metrigau dilysu modelau cyfrifiadurol †. Y mae’n frwdfrydig am ddarparu hyfforddiant a mentora ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr mewn pŵer niwclear sifil, a'i alluogodd i greu tîm i gydweithio â Phrifysgol Lerpwl i ddatblygu a chyflwyno’r Rhaglen Arweinyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg awdurdodedig ac academaidd ILM.
Yn y DU mae Steve yn ymwneud â llunio cyfeiriad ymchwil trwy ryngweithiadau mewn amryw o Grwpiau Diddordeb Arbennig sy'n gysylltiedig â hydroleg thermol niwclear. Ar hyn o bryd ef yw Arweinydd Technegol Hydroligion Thermol ym Mhrosiect Prosiect FAITH Cyfnod 2 BEIS AMM, sy'n ymwneud â chynllunio arbrawf i ddilysu efelychiadau Deinameg Hylifol Cyfrifiannol ar gyfer casgliadau tanwydd adweithyddion.
Yn ryngwladol Steve yw arweinydd y DU ar gyfer y maes Modelu ac Efelychu Uwch y DU / UDA fel rhan o Gynllun Gweithredu Ymchwil Ynni Niwclear Dwyochrog yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS / DoE). Y mae hefyd wedi bod yn rhan o dîm fu’n darparu arweiniad arfer da o ragfynegiant enghreifftiol o oeri gweddillion tanwydd niwclear ar gyfer yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda LNC, a'r UD a chydweithwyr yn LLNL, i ddarparu cynllun arloesol o arbrawf y mae angen iddo weithredu mewn amgylchedd tymheredd isel rheoledig.
† Ksenija Dvurecenska, Steve Graham, Edwardo Patelli, Eann A Patterson A probabilistic metric for the validation of computational models, R. Soc. open sci. 5, 180687, October 2018
Adrian Bull
Adrian Bull
Crybyllwyd Adrian Bull yn Gymrawd LNC mewn Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn Hydref 2020, gan ei wneud yn Gymrawd LNC cyntaf i’w benodi mewn gwyddor gymdeithasol. Mae ei waith ym maes cysylltiadau allanol i LNC a sefydliadau eraill yn golygu ei fod yn ymwneud yn agos â chyfathrebu a hyrwyddo proffil ac enw da'r diwydiant niwclear a’r LNC ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Yn hynny o beth, mae gan Adrian hanes hir o ymgysylltu gyda ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys gwleidyddion, swyddogion y Llywodraeth, y cyfryngau, cwsmeriaid, sefydliadau diwydiant a phrifysgolion. Cyn ymgymryd â’r rôl LNC yn 2012, yr oedd Adrian yn Bennaeth Cysylltiadau Cyfryngau a Rhanddeiliaid i Westinghouse yn Ewrop, a chyn hynny bu’n gweithio yn yr Uned Polisi Ynni yn Nhanwydd Niwclear Brydeinig Cyf (BNFL) – ei rôl olaf yno mewn 23 mlynedd o weithio’n ddibaid gyda’r cwmni.
Mae Adrian wedi gweithio ar amrediad o ymgynghoriadau cyhoeddus ar faterion ynni ac wedi rhoi tystiolaeth i nifer o Bwyllgorau Llywodraeth y DU ar y pwnc. Y mae wedi bod yn ymwneud yn agos â gwaith Cyngor Diwydiant Niwclear y DU ar gyfathrebu a dealltwriaeth cyhoeddus o ynni niwclear.
Mae Adrian yn cadeirio Grŵp Ymgynghori Cyfathrebu o FORATOM ac yn Is-gadeirydd y corff cyfatebol, Cymdeithas Niwclear y Byd. Y mae'n Aelod o Fwrdd Marchnata Swydd Gaerlleon a'r Ganolfan Cyfryngau Gwyddonol ac mae'n aelod o nifer o bwyllgorau eraill ar gyrff fel y Cydffederasiwn Diwydiannau Prydain, Prifysgol Manceinion a Sefydliad Niwclear y DU. Yn 2019 fe’i wahoddwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol i fod yn un o dri “arbenigwr” ar genhadaeth bwrpasol i Sri Lanca i rannu dealltwriaeth gyda arweinwyr y diwydiant ynni a niwclear, ac eraill, a oedd yn gysylltiedig â phob agwedd o ymgysylltu gyda grwpiau rhanddeiliaid lleol fel y mae'r wlad yn paratoi i gynllunio ei weithfeydd pŵer niwclear cyntaf.
Y mae Adrian yn Gymrawd o Sefydliad Ynni y DU ac fe ddyfarnwyd yr MBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 am ei waith ar ddatblygu dealltwriaeth y cyhoedd o niwclear.
Colette Grundy
Colette Grundy
Penodwyd Colette yn Gymrawd mewn Rheoleiddio Niwclear yn Hydref 2020. Mae hi'n Gemegydd Siartredig ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Cemeg, ac mae ganddi radd Meistr a PhD mewn Cemeg. Cafodd Colette secondiad o'r Swyddfa Ymchwil Arloesi Niwclear (NIRO) i'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS) fel Pennaeth Rheoleiddio Technoleg Niwclear Uwch (ANT) o 2017-2019. Yn Nhîm BEIS ANT bu Colette yn arwain gwaith ar barodrwydd rheoliadol gan weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd (EA), a Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, (ONR) mewn moderneiddio asesiad cynllunio generig, ymgysylltu cyn-drwyddedu / asesu, a meithrin gallu i reoleiddio technolegau niwclear datblygedig. Ym Mehefin 2019 penodwyd Colette yn Uwch Ymgynghorydd Polisi Technoleg Niwclear Uwch, yng Ngrŵp Rheoleiddio Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd cyn dychwelyd i LNC ar 1af o Ebrill 2020.
Mae gan Colette 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant niwclear gan gynnwys rolau uwch mewn polisi a rheoleiddio. Hi yw Arweinydd Ymgysylltu Rheoleiddio LNC ar gyfer SMR y DU. Yn flaenorol, bu Colette yn gweithio fel rheoleiddiwr niwclear o ddechrau cyfnod y Cyd-reoleiddwyr y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd, Asesiad Cynllunio Generig y DU, proses GDA. Mae ei phrofiad o gyfundrefnau rheoleiddio yn cynnwys gwaith yng Nghanada, UDA, Ffrainc, Sweden, y Ffindir a gwlad yr Iorddonen ar gyfer prosiectau ynni niwclear. Yr oedd ei rôl yn yr Adran Fusnes, Ynni a Sytategaeth Diwydiannol yn cynnwys hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol, gan gynnwys rhwng rheolyddion. Dyfarnwyd gwobr i Colette gan Swyddfa Dramor a Chymanwlad y DU am ei gwaith niwclear yng ngwlad yr Iorddonen, a gwobr Arweinydd Ysbrydoledig y LNC mewn cydnabyddiaeth o’i gwaith yn arwain y tîm Diogelwch, Amddiffyn a Gwarchod.
Mae Colette yn eiriolwr cryf dros ddatblygiad proffesiynol a mentora staff i ddatblygu sgiliau. Y mae hi’n fentor ar gynllun achredu proffesiynol Cymdeithas Frenhinol Cemeg LNC, ac fe sefydlodd Gymuned Ymarfer i Fentora y LNC. Ysgrifennodd Colette am bwysigrwydd mentora i ddatblygu sgiliau fel aelod o'r Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear, (NSSG). https://www.nssguk.com/news/blogs/why-mentoring-is-a-key-aspect-to-growing-our-nuclear-skills-base/
Mewn gwaith rhyngwladol, mae Colette yn cynrychioli’r DU ar Fforwm Rhyngwladol Cenhedlaeth IV, GIF ar gyfer yr Adweithydd Sodiwm Cyflym. Ailymunodd y DU â GIF yn 2019 i gyflymu a chefnogi lleoli adweithyddion datblygedig yn y DU. Mae Colette yn arwain gweithgor technegol ar ganfyddiad cyhoeddus o Reoleiddio Technoleg Niwclear Uwch ar gyfer adeiladu newydd i’r Platfform Technoleg Ynni Niwclear Cynaliadwy Ewropeaidd (SNETP). https://snetp.eu/
Anthony Banford
Anthony Banford
Cefndir
Anthony yw Prif Dechnolegydd ar gyfer Rheoli Gwastraff a Digomisiynu Bwrdd Cyfarwyddwyr y Labordy Niwclear Cenedlaethol, gyda chyfrifoldeb dros ymchwil a datblygu technoleg. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant niwclear, gan arwain rhaglenni strategol, peirianneg ac ymchwil a datblygu. Y mae wedi gweithio'n helaeth ar brosiectau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gydweithio gyda phartneriaid yn yr UD ac Ewrop ar reolaeth gwastraff niwclear a digomisiynu. Y mae Anthony yn Beiriannydd Siartredig, Gwyddonydd Siartredig, yn Gymrawd o Sefydliad Peirianwyr Cemegol ac yn Athro Gwadd Academi Frenhinol ym Mhrifysgol Manceinion.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Mae Anthony yn beiriannydd cemegol sy'n arbenigo mewn triniaeth gwastraff ymbelydrol, rheoli gwastraff a digomisiynu niwclear. Mae wedi cael ei alw’n arbenigwr pwnc gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ac wedi darlithio’n rhyngwladol ar ei faes.
Cyflawniadau Allweddol
Mewn gyrfa helaeth y mae wedi cyfrannu ar nifer o brosiectau ar draws y cylch tanwydd. Mae esiamplau’n cynnwys:
- Sefydlu’r prosiect ymchwil cydweithredol Horizon 2020 Theramin.
- Adeiladu y Rheoli Gwastraff a Digomisiynu, arwyddiant ymchwil a rhaglenni strategol dilynol
- Yr arbrofion syncrotron DIAMOND cyntaf ar ddefnydd ymbelydrol o orsaf Magnox
Swyddi Allweddol (ers 2000)
- 2012 - presennol: Prif Dechnolegwr, Rheoli Gwastraff a Digomisiynu Bwrdd Cyfarwyddwyr, Labordy Niwclear Cenedlaethol
- 2016 - presennol: Athro Gwadd Academi Frenhinol Peirianneg mewn Peirianneg Niwclear, Prifysgol Manceinion
- 2010 - 2012: Awdurdod Technegol (Gwastraff a Digomisiynu Etifeddol), Labordy Niwclear Cenedlaethol
- 2010 - 2014: Athro Gwadd Academi Frenhinol Peirianneg mewn Peirianneg Niwclear, Prifysgol Manceinion
Mae Anthony hefyd yn cynrychioli LNC ar bwyllgor dethol y DU-UD, gyda Adran Ynni'r UD a'r Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA). Yn Ewrop Anthony yw arweinydd technegol Rheoli Gwastraff a Digomisiynu grŵp Nugenia.
Cyhoeddiadau Allweddol:
- Wareing, A., Abrahamsen-Mills, L., Fowler, L., Grave, M., Jarvis, R., Metcalfe, M., Norris, S. and Banford, A.W., 2017. Development of integrated waste management options for irradiated graphite. Nuclear Engineering and Technology.
- Kerry, T., Banford, A.W., Thompson, O.R., Carey, T., Schild, D., Geist, A. and Sharrad, C.A., 2017. Transuranic contamination of stainless steel in nitric acid. Journal of Nuclear Materials, 493, pp.436-441.
- Bower, W.R., Morris, K., Mosselmans, J.F.W., Thompson, O.R., Banford, A.W., Law, K. and Pattrick, R.A.D., 2016. Characterising legacy spent nuclear fuel pond materials using microfocus X-ray absorption spectroscopy. Journal of hazardous materials, 317, pp.97-107.
- Wallbridge, S., Banford, A. and Azapagic, A., 2013. Life cycle environmental impacts of decommissioning Magnox nuclear power plants in the UK. The International Journal of Life Cycle Assessment, 18(5), pp.990-1008.
- Metcalfe, M.P., Banford, A.W., Eccles, H. and Norris, S., 2013. EU Carbowaste project: Development of a toolbox for graphite waste management. Journal of Nuclear Materials, 436(1), pp.158-166.
- Fachinger, J., Müller, W., Marsat, E., Grosse, K.H., Seemann, R., Scales, C., Banford, A. and Easton, M.M., 2013, September. Production of an impermeable composite of irradiated graphite and glass by hot isostatic pressing as a long term leach resistant waste form. In ASME 2013 15th International Conference on Environmental Remediation and Radioactive Waste Management (pp. V001T01A041-V001T01A041). American Society of Mechanical Engineers
- Samseth, J., Banford, A., Batandjieva-Metcalf, B., Cantone, M.C., Lietava, P., Peimani, H. and Szilagyi, A., 2012. Closing and Decommissioning Nuclear Power Reactors. UNEP Year book, pp.35-49.
- Banford, A.W. and Jarvis, R.B., 2011. Decommissioning of Nuclear Sites. In Nuclear Power and the Environment (pp. 116-128). Royal Society of Chemistry.
Luke O’Brien
Luke O’Brien
Mae Luke O’Brien, Rheolwr Busnes Elifiannau a Chemeg Amgylcheddol, yn Wyddonydd Gwadd ar gyfer yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Manceinion.
Mae Luke yn ceisio deall cysylltiad rhwng ymbelydredd â chyfansoddion mewn gwastraff niwclear (gyda'r Athro Livens a Nick Bryan) a'r berthynas ddilynol gydag elifiannau a gynhyrchir wrth storio ac adfer gwastraff. Yn gysylltiedig â hyn, mae Luke hefyd yn edrych ar rôl prosesau microbaidd mewn systemau elifiant (gyda'r Athro Jon Lloyd, Prifysgol Manceinion). Cefnogir asesiadau o dechnoleg elifiant (gwaddodiad cemegol, cyfnewid ïonau, hidliad, ac ati) trwy gysylltiadau â Clint Sharrad (Canolfan Ymchwil ar gyfer Gwastraff Ymbelydrol ‘Radwaste’ a Digomisiynu) ac hefyd â Chanolfan Sellafield Cyf o Arbenigedd am Dechnoleg Elifiant.
Mae tîm Luke yn chwarae rhan weithredol wrth oruchwylio amryw o PhDau noddedig (e.e. NDA a SL)
Nick Smith
Nick Smith
Mae’r Athro Nick Smith wedi bod yn Gymrawd LNC mewn geonodweddu a synhwyro laser a cwantwm o bell ers 2014 ac mae hefyd yn Reolwr Technoleg mewn daeareg, GIS, synhwyro laser a delweddu 3D o fewn Tîm Nodweddu Amgylcheddol LNC. Cwblhaodd Gymrodoriaeth Diwydiant y Gymdeithas Frenhinol rhwng 2013 a 2017 mewn nodweddu laser o bell mewn amgylcheddau niwclear eithafol a oedd yn golygu treulio 50% o'i amser ym Mhrifysgol Manceinion lle mae'n dal Proffesoriaeth Gwadd (o fewn Ysgol Fecanyddol, Awyrofod a Pherianneg Sifil ). Mae gan Nick radd mewn daeareg a PhD mewn daeareg saernïol a basn dynamig o Brifysgol Keele, ac MSc mewn gwyddor gwybodaeth ddaearyddol o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.
Mae diddordebau ymchwil Nick yn cynnwys daeareg strwythurol a dadansoddiad basn, gwaddodeg a stratigraffeg; creigwely a daeareg arwynebol o isadeiledd niwclear; dehongli daearegol digidol a modelu gan ddefnyddio synhwyro laser o bell; a nodweddu cydraniad uchel ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol a digomisiynu niwclear gan ddefnyddio ffotoneg a thechnoleg cwantwm. Mae'r holl feysydd hyn wedi darparu cynnwys portffolio helaeth i Nick o erthyglau cyfnodolion cyhoeddedig a phapurau cynhadledd, lawer ohonynt yn ganlyniad cydweithredu gyda academia (gan gynnwys nifer o brifysgolion a chanolfannau ymchwil y DU fel Arolwg Daearegol Prydain).
Mae gweithgarwch Cymrodoriaeth LNC Nick wedi canolbwyntio ar gynorthwyo i lunio mynegiant o wyddoniaeth a thechnoleg y LNC.
Y mae wedi cydlynu Gwobrau Cyhoeddi’r LNC ers y cychwyn, gan gynorthwyo i gyflwyno y Cyhoeddiad Gwyddonol / Technegol Allanol Gorau (BEST) a Gwobrau’r Prif Wyddonydd. Diffiniodd a chynhyrchodd Gynllun Cyfathrebu S &T LNC i gefnogi Strategaeth S&T LNC ac ar hyn o bryd mae’n arwain gweithgarwch Cymrodoriaeth LNC ym maes ‘sci-comm’.
Matthew Barker
Matthew Barker
Penodwyd Matthew Barker yn Gymrawd Labordy yn 2015, gan ofalu am faes Gwerthuso Ôl-Arbelydru; y mae Matthew hefyd yn Gymrawd o’r Sefydliad Ffiseg. Ymunodd Matthew ag Adran Dechnegol MOX i Tanwydd Niwclear Brydeining Cyf (BNFL) yn 2003 ar ôl cwblhau gradd D.Phil mewn Ffiseg Gronynnau Ynni Uchel ym Mhrifysgol Rhydychen. Yr oedd ei waith i BNFL yn canolbwyntio ar gefnogaeth perfformiad tanwydd ar gyfer Gwaith MOX Sellafield.
Symudodd Matthew i LNC yn 2005 a chymryd yr awenau ar gydran yr Archwiliad Ôl-Arbelydru (PIE) o'r rhaglen perfformiad tanwydd y MOX. Yr oedd hyn yn golygu cynrychioli LNC mewn nifer o gydweithrediadau rhyngwladol a rheolaeth dechnegol y rhaglen Archwiliad Ôl-Arbelydru mewn sefydliadau allanol mewn nifer o wledydd gan gynnwys yr Almaen, Siapan, Norwy a Ffrainc. O 2005, chwaraeodd ran gynyddol mewn dadansoddi graffit adweithydd nwy-oeredig uwch (AGR) a thanwydd AGR. Yr oedd y gwaith yn cynnwys dadansoddi mesuriadau nodweddion sylfaenol ar graffit adweithydd arbelydredig a datblygu medrusrwydd mesuriadau newydd.
Yn 2009, chwaraeodd Matthew rôl arweiniol dechnegol er mwyn sicrhau ansawdd y canlyniadau a gafwyd o raglen sylweddol o waith tanwydd Archwiliad Ôl-Arbelydru yn Studsvik Nuclear AB yn Sweden. Yn 2010 cymerodd Matthew reolaeth o’r tîm perfformiad tanwydd a graffit, a oedd yn cynnwys uwch arbenigwyr o fewn LNC yn cynnwys tanwydd CAGR a graffit Archwiliad Ôl-Arbelydru. Rhan helaeth o rôl Matthew yn ystod y cyfnod hwn oedd fel arweinydd technegol i’r Archwiliad Ôl-Arbelydru o danwydd arbelydredig o nifer fawr o orsafoedd pŵer AGR y DU.
Ers 2015 mae Matthew wedi bod yn Reolwr Busnes ac yn Uwch Arweinydd Technegol ar gyfer gwaith Perfformiad Tanwydd Sifil yn Windscale. Mae'r rôl yn darparu goruchwyliaeth o arweinwyr technegol yn gweithio mewn amryw faes (SEM, Meteograffeg, NDT, Endosgopi) i gyflawni anghenion Archwiliad Ôl-Arbelydru ar Danwydd AGR.
O fewn ei rôl bresennol mae Matthew hefyd yn arwain nifer o feysydd arloesi, ymchwil a datblygu wedi eu hanelu at ddatblygu ymhellach deilyngdod gwyddonol o Archwiliadau Ôl-Arbelydru tanwydd sifil o fewn LNC. Fel cymrawd labordy, mae ei ddiddordebau'n cynnwys datblygiad technegol ac ansawdd a thrylwyredd gwyddonol.
Mike Harrison
Mike Harrison
Mae gan Mike Harrison radd anrhydedd a PhD mewn Cemeg o Brifysgol Rhydychen, lle yr oedd ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys cemeg anorganig cyflwr solid, gwneuthuriad a nodweddion gwydr, a sbectrosgopeg optegol. Ymunodd â Thanwydd Niwclear Brydeinig Cyf (BNFL) yn Ionawr 2003 fel aelod o'r Tîm Gwastraff Lefel Uchel Gweithfeydd ac mae wedi gweithio ar driniaeth tymheredd uchel ar ystod eang o ffrydiau gwastraff ymbelydrol, gan arbenigo mewn ffurfiau gwastraff niwclear gwydrog.
Meysydd Arbenigedd Allweddol
Mae Mike yn Gemegydd Siartredig ac yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Cemeg. Y mae'n uwch arweinydd technegol ffurfiau gwastraff niwclear gwydrog a gweithgareddau perfformiad, ac wedi cyfarwyddo rhaglenni ymchwil arbrofol ar bob agwedd ar wastraff niwclear gwydrog. Yn ogystal, mae ganddo ddiddordebau yn y defnydd o pyrocemeg (halwynau tawdd) i drin gweddillion tanwydd niwclear ynghyd â'r driniaeth wastraff ddilynol.
Cyflawniadau Allweddol
Mae Mike wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo pwysigrwydd gwydnwch tymor hir HLW gwydredig, gan ddatblygu gallu’r LNC drwy gyflwyno protocoliau profi newydd a thrwy gydweithrediadau â nifer o brifysgolion y DU ac amryw o sefydliadau tramor.
Swyddi Allweddol
Yn ddiweddar y mae wedi bod yn arweinydd pecyn gwaith yn y prosiectau halwynau tawdd Euratom ‘SACSESS’ ac EPSRC ‘REFINE’, ac ar hyn o bryd ef yw’r Arweinydd Thema ar gyfer Perfformiad Cynhyrchion Gwastraff a’r rhaglen Ymchwil a Datblygu fewnol y LNC, ‘Evolution’. Y mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Technegol y Gyngres Ryngwladol ar Gwydr 05 – gwydreiddio Niwclear a gwastraff peryglus.
Cyhoeddiadau Allweddol:
- M.T. Harrison & C.J. Steele Vitrification of simulated highly active calcines containing high concentrations of sodium and molybdenum in MRS Advances 1, 4233-4238 (2016).
- M.T. Harrison Vitrification of High Level Waste in the UK and The Effect of Composition on Short- and Long-term Durability of UK HLW Glass in Procedia Materials Science 7 (2014).
- S. Gin, A. Abdelouas, L.J. Criscenti, W.L. Ebert, K. Ferrand, T. Geisler, M.T. Harrison, Y. Inagaki, S. Mitsui, K.T. Mueller, J.C. Marra, C.G. Pantano, E.M. Pierce, J.V. Ryan, J.M. Schofield, C.I. Steefel, and J.D. Vienna An international initiative on long-term behavior of high-level nuclear waste glass, Materials Today 16(6), 243-248 (2013).
- M. T. Harrison, C. J. Steele & A. D. Riley The effect on long term aqueous durability of variations in the composition of UK vitrified HLW product, Glass Technol.: Eur. J. Glass Sci. Technol. A, October 2012, 53(5), 211-216.
Glyn Rossiter
Glyn Rossiter
Cefndir
Mae gan Glyn BSc mewn Ffiseg Damcaniaethol o Brifysgol Newcastle-Upon-Tyne. Yr oedd ei yrfa gynnar (1994-2005) gyda Thanwydd Niwclear Prydain Cyf (BNFL), lle yr oedd yn gysylltiedig â cynllunio tanwydd a thrwyddedu. Yr oedd hyn yn cynnwys secondiad dwy flynedd i'r Sefydliad Technoleg Ynni (IFE) yn Norwy. Yn ystod ei amser yn IFE, bu Glyn yn gweithio ar weithrediad a dadansoddiad arbrofion ymddygiad tanwydd niwclear yn Adweithydd Dŵr Berwedig Halden (HBWR) o dan adain Prosiect Adweithydd Halden yr OECD.
Ers 2005, y mae gwaith Glyn wedi canolbwyntio ar ymchwil a datblygu a gysylltir â pherfformiad tanwydd - hynny yw, ymddygiad thermo-fecanyddol a thermo-gemegol tanwydd niwclear, o fewn yr adweithydd ac yn ystod storio a chael gwared ohono.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Prif arbenigedd Glyn yw perfformiad tanwydd a hydroleg thermol craidd LWR, mewn Adweithydd Dŵr Ysgafn (LWR) yn arbennig yng nghyd-destun chynllunio a thrwyddedu tanwydd LWR. Mae gan Glyn hefyd brofiad mewn adweithydd nwy-oeredig uwch (AGR) a pherfformiad tanwydd cyflym adweithydd.
Cyflawniadau Allweddol
Glyn oedd yn arweinydd technegol perfformiad tanwydd ar gyfer trwyddedu tanwydd ocsid cymysg (MOX) BNFL yng Nghylchredau 32 a 33 adweithydd Beznau-1 yn y Swistir. Yr oedd hefyd yn arweinydd technegol thermol-hydroleg craidd ar gyfer trwyddedu tri ail-lwythiad tanwydd BNFL ar gyfer adweithydd Sizewell B y DU, ac ar gyfer cynllunio a thrwyddedu Casgliadau Prawf Arweiniol (LTA) ar gyfer adweithydd Loviisa yn y Ffindir.
Cwblhaodd Glyn Raglen Datblygu Rhagoriaeth Dechnegol (TEDP) LNC yn 2012 yn llwyddiannus, ac ef oedd Unigolyn y Flwyddyn am Ymrwymiad i Ansawdd yn y Gwobrau Dylanwad LNC 2015.
Swyddi Allweddol
Glyn yw cadeirydd Grŵp Arbenigol ar Berfformiad Tanwydd Adweithydd (EGRFP) yr Asiantaeth Ynni Niwclear (NEA) ac yn gynrychiolydd y DU ar Weithgor Technegol ar Berfformiad a Thechnoleg Tanwydd (TWGFPT) yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA). Yn ogystal mae Glyn yn gynrychiolydd tanwydd a defnyddiau y DU ar y Grŵp Rhaglen Halden (HPG): y grŵp llywio technegol ar gyfer rhaglen danwydd a defnyddiau arbyledrol y Prosiect Adweithydd Halden yr OECD.
Cyhoeddiadau Allweddol:
- D Shepherd, G D Rossiter, I D Palmer, G Marsh and M Fountain, “Technology readiness level (TRL) assessment of advanced nuclear fuels”, TopFuel 2015, Zurich, Switzerland, September 2015
- G Rossiter, “Understanding and modelling fuel behaviour under irradiation”, in I Crossland (Ed.), “Nuclear fuel cycle science and engineering”, Woodhead Publishing, 2012
- G Rossiter and M Mignanelli, “The characteristics of spent AGR fuel: what can we learn from spent LWR fuel?”, IChemE nuclear fuel cycle conference, Manchester, UK, April 2012
- G Rossiter, “Development of the ENIGMA fuel performance code for whole core analysis and dry storage assessments”, Nuclear Engineering and Technology, Vol. 43 No. 6, December 2011
- T Tverberg, W Wiesenack, S K Yagnik and G Rossiter, “Behavior of homogeneous and heterogeneous MOX fuel”, 2010 LWR Fuel Performance/TopFuel/WRFPM, Orlando, Florida, September 2010
- A Alapour, R M Joyce, A S DiGiovine, S Tarves, N Patino, A Worrall, R Gregg and G Rossiter, “Robust PCI monitoring during PWR operation at Southern Nuclear”, 2010 LWR Fuel Performance/TopFuel/WRFPM, Orlando, Florida, September 2010
- A Worrall, T J Abram, R W H Gregg, K W Hesketh, I D Palmer, G D Rossiter and G M Thomas, “Plutonium utilization options in future UK PWRs using MOX and inert matrix fuels”, Global-2007, Idaho, USA, September 2007
- R Weston, I D Palmer, J M Wright, G D Rossiter, R C Corcoran, T C Gilmour, C T Walker and S Bremier, “Progress on SBR MOX fuel development”, TopFuel, Stockholm, Sweden, May 2001
- R Chawla, C Hellwig, F Jatuff, U Kasemeyer, G Ledergerber, B-H Lee and G Rossiter, “First experimental results from neutronics and in-pile testing of a Pu-Er-Zr oxide inert matrix fuel”, TopFuel, Stockholm, Sweden, May 2001
- G D Rossiter, P M A Cook and R Weston, “Isotopic modelling using the ENIGMA-B fuel performance code”, IAEA technical committee meeting on nuclear fuel behaviour modelling at high burnup and its experimental support, Windermere, UK, June 2000
- I D Palmer, G D Rossiter and R J White, “Development and validation of the ENIGMA code for MOX fuel performance modelling”, IAEA symposium on MOX fuel cycle technologies for medium and long term deployment, Vienna, Austria, May 1999
Dave Goddard
Dave Goddard
Penodwyd Dave Goddard yn Gymrawd ar gyfer Gweithgynhyrchu Tanwydd Niwclear yn 2016. Ymunodd Dave â Thanwydd Niwclear Prydeinig Cyf (BNFL) yn 1992 fel gwyddonydd defnyddiau, gan arbenigo mewn defnyddio chwiliedydd sganio a microsgopeg sganio electronig i astudio defnyddiau tanwydd. Yn ystod y cyfnod hwn cydweithiodd gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen a lwyddodd i gynhyrchu'r delweddau cydraniad atomig cyntaf o arwynebau wraniwm ocsid gan ddefnyddio Microsgop Twnelu Sganio tymheredd uchel.
Yn 2000, arweiniodd Dave i sefydlu Cynghrair Ymchwil Prifysgol ym maes gwyddoniaeth gronnynau a pheirianneg ym Mhrifysgol Leeds. Mae'r grŵp hwn wedi tyfu dros y blynyddoedd, gyda dros 30 o fyfyrwyr PhD ar hyn o bryd yn gweithio ar ystod eang o brosiectau sy'n cefnogi gweithgareddau rheoli gwastraff a glanhad yn bennaf ar draws y diwydiant.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Trwy gydol ei yrfa mae Dave wedi darparu cefnogaeth dechnegol i weithfeydd cynhyrchu tanwydd, yn enwedig yr Adran Tanwydd Ocsid yn Springfields ac yn y Gwaith MOX Sellafield. Yn fwy diweddar bu’n arweinydd technegol ar gyfer datblygu Canolfan Ragoriaeth Tanwydd Niwclear, gan weithio’n agos â Phrifysgol Manceinion. Mae'r cyfleusterau newydd yn labordy LNC Preston yn cael eu defnyddio i archwilio i lwybrau saernïo newydd ar gyfer tanwydd gyda goddefaint damweiniol ddyrchafedig a dwysedd wraniwm uchel, fel wraniwm silisid, a allai arwain at newid sylweddol yn y genhedlaeth nesaf o danwydd niwclear.
Cyflawniadau Allweddol
Mae Dave yn Gymrawd y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio ac yn Wyddonydd Siartredig ac yn ddiweddar fe'i penodwyd yn Athro Gwadd yr Academi Frenhinol Beirianneg ym Mhrifysgol Manceinion. Y mae wedi cyd-ysgrifennu dros 30 o gyhoeddiadau dyfarnedig ac mae'n aelod o Goleg Adolygu Cymheiriaid yr EPSRC. Fel rhan o'i rôl fel Cymrawd, bydd Dave yn cefnogi strategaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg LNC, gan ddefnyddio ei brofiad o weithio gyda phrifysgolion i sefydlu strategaethau ymchwil gyda rhai o bartneriaid prifysgol allweddol y LNC.
Swyddi
- Cymrawd LNC mewn Gweithgynhyrchu Tanwydd Niwclear (2016 - presennol)
- Athro Gwadd yr Academi Frenhinol Peirianneg ym Mhrifysgol Manceinion (2016 – presennol)
Cyhoeddiadau Allweddol:
- D.T.Goddard, Recent Progress in Accident Tolerant Fuels, Nuclear Future, 13(2), 40-44, 2017.
- D.T.Goddard et al, Manufacturability of U3Si2 and its high temperature oxidation behaviour, Proceedings of Topfuel 2016, Boise, Idaho, USA, Sept 2016.
Nassia Tzelepi
Nassia Tzelepi
Cefndir
Mae Nassia yn dal MBA, MSc mewn Systemau Ynni a'r Amgylchedd ac MPhys mewn Ffiseg Laser a Moleciwlaidd. Ei phrif faes arbenigedd yw technoleg graffit gyda ffocws allweddol ar ymchwil a datblygu. Mae ganddi fwy na 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ynni ehangach, 12 ohonynt wedi eu treulio yn gweithio ar graffit niwclear. Mae Nassia wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn datblygu technegau mesur ar gyfer samplau graffit Magnox ac Adweithydd Nwy-oeredig Uwch(AGR), gan reoli ymgyrchoedd monitro graffit ac adolygiadau achos diogelwch craidd.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Dechreuodd Nassia ei gyrfa gyda Tanwydd Niwclear Prydeinig Cyf (BNFL) yn Berkeley, yn gweithio ar fodelu craidd cyflawn yn y tîm Technoleg Graffit. Fe ehangodd feysydd ei harbenigedd i briodweddau defnyddiau ac effeithiau arbelydru ac ocsideiddiad radiolytig ar graffit. Mae Nassia wedi arwain datblygiad model micro beirianaethol o ymddygiad arbelydriad graffit ac wedi cyfrannu at Raglen Ymchwil Gydweithredol yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA) ar Ymgripiad Arbelydriad mewn Graffit.
Yn ogystal â graffit niwclear mewn adweithyddion gweithredol, y mae Nassia wedi datblygu ei harbenigedd ymhellach mewn materion sy'n ymwneud â rheoli gwastraff graffit. Fe gychwynnodd ymchwil gydweithredol i ddeall ffurfiant ac ymddygiad C14 mewn creiddiau graffit o dan raglen ymchwil strategol y LNC. Mae Nassia wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Raglen Ymchwil Gydweithredol yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar Drin Graffit Arbelydredig ac ar hyn o bryd mae'n cyfrannu at ei prosiect ar Ddulliau Prosesu GRAffit arbelydredig (GRA-PA).
Cyflawniadau Allweddol
Mae Nassia yn Ffisegydd Siartredig (IoP) ac yn Beiriannydd Siartredig (EC). Mae hi’n aelod o bwyllgor Grŵp Carbon Prydeinig ac yn gadeirydd sesiwn Priodoleddau Ffisegol pwyllgor ASTM ar Garbonau a Graffitau Gwneuthuriedig. Mae hi wedi ennill Gwobr Gwerthfawrogiad ASTM a Gwobr Arweinyddiaeth y Llywydd ASTM, uchel ei glod. Mae Nassia wedi arwain mwy na 100 o adroddiadau mewnol ac wedi cyd-ysgrifennu mwy nag 20 o gyhoeddiadau.
Mark Sarsfield
Mark Sarsfield
Mae Mark yn Gymrawd Labordy LNC sy’n arbenigo mewn cemeg actinid gyda dros 16 mlynedd o brofiad. Gydag arbenigedd mewn cemeg ailbrosesu, mae'n cefnogi’r gweithfeydd ailbrosesu Thorp a Magnox yn Sellafield ac yn darparu cefnogaeth i'r Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA) ar opsiynau i ymdrin â stôr plwtoniwm y DU. Mark yw arweinydd technegol LNC ar brosiect Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a ddiffiniodd y broses AMPPEX, a ddefnyddiwyd i wahanu americiwm o blwtoniwm diocsid hen, gan arwain i’r cysyniad dyluniad o gyfleuster cynhyrchu 241Am. Mae Mark yn arwain gwaith o fewn y prosiectau a ariennir gan FPVII yr Undeb Ewropeaidd ac ar hyn o bryd mae'n arweinydd pecyn gwaith i’r Rhaglen Arloesi Niwclear a ariennir gan y Llywodraeth ar opsiynau ailbrosesu uwch. Mae'n darparu cyrsiau o ddarlithoedd ar ailbrosesu tanwydd niwclear i staff yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA) ac i Weinyddiaeth Amddiffyn y DU ac ef yw sylfaenydd a golygydd cyfnodolyn Gwyddoniaeth y LNC. Mae ganddo gysylltiadau cryf â Phrifysgol Manceinion lle mae'n gymrawd ymchwil gwadd. Mae gan Mark dros 45 o bapurau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a phennod mewn llyfr. Ef yw enillydd cyntaf o’r wobr BEST LC am y cyhoeddiad cyfnodolyn gorau ar sbectrosgopeg Raman o blwtoniwm diocsid.
Cyhoeddiadau Allweddol:
- E.J. Watkinson, R.M. Ambrosi, D.P. Kramer, H.R. Williams, M.J. Reece, K. Chen, M.J. Sarsfield, C.D. Barklay, H. Fenwick, D.P. Weston , K. Stephenson, “Sintering trials of analogues of americium oxides for radioisotope power systems”, Journal of Nuclear Materials, 491, 18, (2017).
- E.J. Watkinson, R.M. Ambrosi, H.R. Williams, M.J. Sarsfield, K. Stephenson, D.P. Weston, N. Marsh, C. Haidon, “Cerium neodymium oxide solid solution synthesis as a potential analogue for substoichiometric AmO2 for radioisotope power systems”, Journal of Nuclear Materials, 486, 308, (2017).
- M. Carrott, C. Maher, C. Mason, M. Sarsfield, R. Taylor, "TRU-SANEX": A variation on the EURO-GANEX and i-SANEX processes for heterogeneous recycling of actinides Np-Cm. Separation Science and Technology, 51, 2198-2213, (2016).
- M.J. Sarsfield, Ch. 13 “The co-precipitation and conversion of mixed actinide oxalates for aqueous-based reprocessing of spent nuclear fuels”, in Woodhead Publishing Series in Energy Vol 79, “Reprocessing and Recycling of Spent Nuclear Fuel”, Ed. R.J. Taylor, Woodhead Publishing, (2015).
- M.J. Sarsfield; R.J. Taylor; C. Puxley; H.M. Steele, "Raman spectroscopy of plutonium dioxide and related materials", Journal of Nuclear Materials, 427, 333, (2012).
- S.D. Reilly; A.J. Gaunt; B.L. Scott; G. Modolo; M. Iqbal; W. Verboom; M.J. Sarsfield, "Plutonium(IV) complexation by diglycolamide ligands-coordination chemistry insight into TODGA-based actinide separations", Chemical Communications, 9732, (2012).
- S.M. Cornet; L.J.L. Haeller; M.J. Sarsfield; D. Collison; M. Helliwell; I. May; N. Kaltsoyannis, "Neptunium(VI) chain and neptunium(VI/V) mixed valence cluster complexes", Chemical Communications, 917, (2009).