Kerry Jackson, Prentis Gwyddonol
Kerry Jackson, Prentis Gwyddonol
Pam wnaethoch chi ddewis Prentisiaeth?
Mi ddewisais i brentisiaeth am ei fod yn un o’r dulliau gorau o ennill profiad tra’n gweithio tuag at gymhwyster. Yr oeddwn i'n teimlo mai dyma'r ffordd orau i mi ddod i mewn i'r diwydiant niwclear gan nad oedd gen i unrhyw gefndir ym maes niwclear. Fel hyn, gallwn ddysgu yn y swydd ac ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnaf ar gyfer gyrfa yn y diwydiant niwclear.
Pam ddewisioch chi’r diwydiant niwclear?
Dewisais y diwydiant niwclear oherwydd ei fod yn tyfu ac yn datblygu'n ddi-baid. O ganlyniad i hyn, y mae yna gymaint o gyfleoedd gwahanol ar gael ac roeddwn yn awyddus i fod yn gysylltiedig mewn maes gwaith a fyddai'n fy ngalluogi i fod yn rheng flaen o ran newid a chynnig amrywiaeth o ddulliau y gallwn ddatblygu fy ngyrfa.
Sut y mae'r Brentisiaeth wedi bod o gymorth i chi?
Mae'r brentisiaeth wedi fy helpu i ddechrau fy ngyrfa yn y diwydiant niwclear, gan fy mod ar hyn o bryd yn cwblhau prentisiaeth wyddonol. Fel rhan o’r dysgu, rwy'n gweithio gyda thechnolegau datblygedig i helpu i gyfrannu at lanhad niwclear, yn ogystal â dysgu’n uniongyrchol o aelodau eraill o'r tîm, rhai ohonynt yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn eu meysydd. Dwi’n teimlo fy mod wedi cyflawni llawer ers dechrau fy mhrentisiaeth gan fy mod wedi datblygu fy ngwybodaeth a bellach yn rhwydweithio gyda llawer o bobl gwahanol.