Jim Gulliford
Jim Gulliford
Darganfyddwch fwy
Mae gan Jim Gulliford dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant niwclear, gan weithio yn y DU, Ffrainc ac UDA. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi arwain timau ymchwil rhyngwladol sy'n gweithio ar faterion gwyddoniaeth a diogelwch sy’n ymwneud â systemau adweithyddion thermol a chyflym. Rhwng 2010 a 2018 bu’n gweithio i’r Asiantaeth Ynni Niwclear (NEA) yr OECD ym Mharis, fel Pennaeth yr Adran Gwyddoniaeth Niwclear ac fel Pennaeth y Banc Data. Cyn hynny fe wasanaethodd fel Pennaeth Proffesiwn Diogelwch Critigolrwydd ac roedd yn Uwch Gymrawd yn Labordy Niwclear Cenedlaethol y DU.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Mae gan Jim arbenigedd fel arbrofwr, rheolwr rhaglen a dadansoddwr yng nghyfleusterau ymchwil adweithyddion yn y DU ac yn Ffrainc.
Mae'n arbenigwr cydnabyddedig mewn sawl maes gwyddoniaeth niwclear, gan gynnwys dulliau modelu uwch (aml-raddfa ac aml-ffiseg), defnyddiau arloesol, dadansoddiad ansicrwydd, dilysu côd ac anghenion arbrofol. Y mae prosiectau diweddar yn cynnwys datblygu gweithgaredd Addysg, Medrusrwydd a Thechnoleg Niwclear (NEST) yr Asiantaeth Ynni Niwclear, sy’n anelu at drosglwyddo gwybodaeth allweddol i genhedlaeth newydd o wyddonwyr a pheirianwyr niwclear drwy eu cynnwys mewn cydweithrediadau Ymchwil a Datblygu rhyngwladol.
Mae gan Mr Gulliford brofiad helaeth o asesu diogelwch fesul cam o'r cylchred tanwydd, gan gynnwys gweithrediadau adweithyddion, rheoli gweddillion tanwydd, cludiant a chael gwared â gwastraff.
Cyflawniadau Allweddol
Gwasanaethodd Jim fel arweinydd ymchwil, rheolwr rhaglen ac fel yr unigolyn enwebedig oedd â chyfrifoldeb cyfan am ddiogelwch gweithredol mewn dau gyfleuster adweithydd ymchwil yn y DU. Yn 1989 fe’i penodwyd yn ‘Chef de Phase’ ar gyfer y rhaglen arbrofol CONRAD yn yr adweithydd ymchwil MASURCA, Cadarache, Ffrainc.
Yn 1991 arweiniodd Jim dîm o wyddonwyr ar genhadaeth ymchwilio i gyfleusterau ymchwil niwclear yn yr Undeb Sofietaidd gynt. Un o ganlyniadau pwysicaf y prosiect hwn, a wnaethpwyd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd, oedd sefydlu cysylltiadau parhaol rhwng timau ymchwil adweithydd yn Rwsia a'u cyfatebwyr mewn gwledydd eraill.
Mae Jim wedi chwarae rhan allweddol mewn cynorthwyo i lywio datblygiad offer dadansoddol a’u cymhwyso ar gyfer dadansoddi diogelwch mewn senarios newydd. Mae'r rhain yn cynnwys cymhwyso methodoleg ‘Burnup Credit’ i ddadansoddiad diogelwch critigoldeb o weithrediadau gweddillion tanwydd niwclear ac wrth gymhwyso dulliau cyplysu aml-ffiseg i asesu diogelwch critigoldeb ar gyfer Cronfa Ddaearegol Ddwfn.
Jason Crain
Jason Crain
Cefndir
Mae gan yr Athro Jason Crain BSc mewn Ffiseg o Sefydliad Technoleg Massachusetts a PhD o Brifysgol Caeredin. Ei gefndir ymchwil yw ffiseg sylwedd cyddwysedig a defnyddiau di-drefn ac estron wedi eu hastudio gan ddefnydd o dechnegau arbrofol a chyfrifiannol. Y mae wedi gwneud cyfraniadau pwysig wrth egluro perthnasu priodoleddau saernïaeth mewn defnyddiau cymhleth gan ddefnyddio systemau modelu isafol neu syml. Mae y rhain yn cynnwys trawsnewidiadau trefn-anrhefn mewn lled-ddargludyddion, nano-switshis DNA artiffisial, cyfansoddion grisial colodaidd-hylif, systemau hunan-gydosod isafol.
Maes Arbenigedd Allweddol
Yr oedd yn Bennaeth y Gwyddorau Ffisegol yn NPL o 2008 hyd nes iddo gael ei wneud yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn 2015. Mae hefyd yn Athro Ffiseg Gymhwysol ym Mhrifysgol Caeredin ac wedi bod yn Athro Gwadd yng Nghanolfan Ymchwil Thomas J Watson, IBM yn Efrog Newydd ers 2003.
Gyda IBM, mae Jason wedi ymwneud ag efelychiad cyfrifiadurol o ddefnyddiau di-drefn a datblygu patrymau dyfeisiau newydd. Y mae wedi arwain sawl prosiect ymchwil diwydiannol helaeth gan arwain at drwyddedau IP a ymelwa masnachol.
Cyflawniadau Allweddol
Yr oedd Jason yn Gyfarwyddwr sylfaenydd Canolfan Ymchwil COSMIC ym Mhrifysgol Caeredin, yn Gymrawd o’r Sefydliad Ffiseg, ac yn aelod o bwyllgorau llywio Grŵp Hylifau y Sefydliad Ffiseg a Fforwm Biohysbyseg yr Alban a chyn Gymrawd Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol Caeredin. Y mae wedi ysgrifennu dros 200 o gyhoeddiadau ac mae’n dal pum patent.
Alan McGoff
Alan McGoff
Cefndir
Gyda mwy na 22 mlynedd o brofiad, mae Alan wedi gweithio fel rheoleiddiwr niwclear ar gyfer safleoedd niwclear a safleoedd anniwclear sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol. Ef hefyd a oruchwyliodd reoleiddio diwydiannau prosesu sylweddol yn cynnwys prosesu nwy naturiol, puro olew, a gweithfeydd cynhyrchu Tyrbin Cylchred Cyfunol Nwy.
Cyn hynny, bu’n gweithio am 12 mlynedd yn Sellafield yn arwain tîm yn datblygu, rhagnodi, gosod, comisiynu a chefnogi offer radiometrig arbennig ar gyfer y gweithfeydd prosesu.
Meysydd Arbenigedd Allweddol
Ers 2005 mae Alan wedi gweithio i’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) fel Pennaeth Rhyngwynebu, Asiantaeth yr Amgylchedd ar faterion adeiladau niwclear newydd ac wedi cyfrannu at ddatblygiad y Papurau Gwyn Ynni a sicrhaodd rôl newydd niwclear. Mae Alan wedi cyfrannu at yr arolwg o adroddiadau yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a’r Asiantaeth Ynni Niwclear (NEA) ar gyfer y LNC yn ogystal â gweithio ar Adeiladau Niwclear Newydd gyda Swyddogion y Llywodraeth a Peter Handley sydd ar secondiad o LNC i DTI.
Cyflawniadau Allweddol
Yn fwy diweddar mae Alan wedi cefnogi yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a BIS mewn cyfarfodydd gyda darpar fuddsoddwyr rhyngwladol yn y DU. Alan hefyd arweiniodd ddatblygiad o Egwyddorion Rheoleiddio Amgylchedd Defnyddiau Ymbelydrol, Asiantaeth yr Amgylchedd sydd wedi llywio y Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol (RSR) ar gyfer asesiad a rheoleiddio gweithredu. Gan weithio'n agos gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) datblygodd Alan y broses o Asesu Dylunio Generig ar gyfer dyluniadau adweithyddion niwclear newydd ac mae Alan yn cyfrannu o’i amser at ddyfarniad y LNC UCLan Niwclear PhD CASE 'Adeiladu ar Lwyddiant Gweithio-GDA i Gyflawni Gwell Rheoleiddiad ar gyfer Safleoedd Niwclear wedi’i Trwyddedu’. Fe anogodd i gael cyfraniad ariannol i’r wobr PhD CASE y LNC gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn ogystal ac annog cyfraniadau gan wahanol unigolion o fewn Asiantaeth yr Amgylchedd.
Francis Livens
Francis Livens
Cefndir
Mae gan yr Athro Francis Livens hanes hir o gydweithio â’r LNC (Nexia Solutions yn flaenorol) a Thanwydd Niwclear Prydeining Cyf (BNFL). Ef oedd Cyfarwyddwr sylfaenol y Ganolfan Ymchwil Radio-cemeg (CRR), y cyntaf o bedair Cynghrair Ymchwil Prifysgol BNFL. Rhwng 1999 a 2004, fe oruchwyliodd dwf CRR o 1 academig a 5 ymchwilydd, i 4 academig , 2 Gymrawd, a 28 ymchwilydd.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Mae Francis wedi gweithio gyda LNC mewn: Prosiectau'r Cyngor Ymchwil (e.e. NERC BIGRAD; EPSRC KNOO); Cytundebau ymchwil fframwaith yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear (e.e. consortiwm ORCHID) a Phrosiectau’r Llywodraeth (e.e. prosiect asiant dadlygru radiolegol y CBRN). Y mae hefyd wedi cyhoeddi nifer o bapurau cyfnodolion academaidd ar y cyd rhwng Manceinion a LNC / Nexia / BNFL.
Francis yw Cyfarwyddwr Ymchwil Sefydliad Niwclear Dalton Prifysgol Manceinion (DNI), sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol portffolio niwclear y brifysgol. Yn 2011 enillodd DNI Wobr Pen-blwydd Jiwbilî Diemwnt y Frenhines, y wobr uchaf o fewn academia’r DU am ‘Ymchwil rhyngwladol o fri a hyfforddiant sgiliau ar gyfer y diwydiant niwclear’.
Mae'r trosiant mewn ymchwil niwclear wedi tyfu o £ 3.9 M y.f. yn 2004 i £ 19.0 M y.f. yn 2010 ac mae ffactor effaith cyhoeddiadau niwclear Manceinion yn awr yr uchaf ohonynt i gyd.
Cyflawniadau Allweddol
Mae gan Francis lawer o rolau allanol, ac ar hyn o bryd mae'r rhain yn cynnwys: Dirprwy Gadeirydd, Pwyllgor Llywodraeth y DU ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol; Aelod, panel Llywodraeth y DU ‘Cyngor Gwyddonol i’r Llywodraeth mewn Argyfyngau’; Aelod, Pwyllgor Ymgynghori Gwyddonol yn Swyddfa'r Cabinet; Ymgynghorydd allanol, Gwasanaeth Dadlygru Llywodraeth y DU; Adolygydd allanol, rhaglenni Ymchwil a Datblygu niwclear, FZ Juelich, yr Almaen; Aelod, Grŵp Arbenigol NERC ar Ymbelydredd yn yr Amgylchedd; Ymgynghorydd allanol i’r Corff Diogelwch Niwclear Cenedlaethol, UDA; Adolygydd allanol, rhaglenni technegol, AWE Aldermaston.
Bruce Hanson
Bruce Hanson
Cefndir
Mae gan Bruce dros 25 mlynedd o brofiad o fewn y diwydiant niwclear yn gweithio i Danwydd Niwclear Prydeining Cyf (BFNL) rhwng 1993 a 2012, gan roi iddo wybodaeth unigryw o strwythurau gwaith y LNC. Ei rôl ddiwethaf gyda’r LNC oedd fel pennaeth Sicrwydd Technegol ac awdurdod Technegol gan adrodd yn uniogyrchol yn ôl i'r Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Personél a galluoedd.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Y mae Bruce yn academydd allweddol ym maes peirianneg niwclear ac mae'n cydlynu ymdrech rhwng prifysgolion ar raglenni ymchwil ar y cyd. Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Gwyddoniaeth Gronynnau a Pheirianneg ym Mhrifysgol Leeds mae Bruce wedi sefydlu rhaglen peirianneg niwclear ac y mae llawer o gyfleoedd i gydweithio wedi cael eu hadnabod yn barod.
Cyflawniadau Allweddol
Yr oedd Bruce yn bennaeth cysylltiadau prifysgol i LNC ac yn rhedeg tîm LNC o gymrodyr ymchwil.
Laurence Williams
Laurence Williams
Cefndir
Y mae Laurence Williams FREng yn Athro Emeritws mewn Diogelwch a Rheoleiddio Niwclear. Y mae'n Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Peirianneg Niwclear yng Ngholeg Imperial Llundain. Y mae Laurence yn Gadeirydd Diogelwch Niwclear y Weinyddiaeth Amddiffyn lle mae'n cynghori'r Ysgrifennydd Amddiffyn ar Ddiogelwch y Rhaglen Amddiffyn Niwclear. Y mae'n aelod o’r Cyngor Gwyddonol Uwch o’r Gymdeithas Niwclear Ewropeaidd ac ef yw Cadeirydd Bwrdd Golygyddol Dyfodol Niwclear. Y mae'n Gymrawd o’r Academi Frenhinol Peirianneg, yn Gymrawd o’r Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Niwclear.
Cyflawniadau Allweddol
Y mae Laurence yn awdurdod rhyngwladol ar ddiogelwch niwclear a rheoleiddio diogelwch gydag arbenigedd wedi'i sylfaenu ar hanes hir o weithio fel peiriannydd niwclear, rheoleiddiwr niwclear ac academydd. Yr oedd yn dal swyddi gyda'r Grŵp Pŵer Niwclear, y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog (CEGB), Arolygwyr Gosodiadau Niwclear Ei Mawrhydi (NII), Gweithredwr Iechyd a Diogelwch (HSE), yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA), yr Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil (CNPA), Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn a Choleg Imperial Llundain.
Laurence oedd Prif Arolygydd Gosodiadau Niwclear Ei Mawrhydi, Cyfarwyddwr Diogelwch Niwclear y Gweithredwr Iechyd a Diogelwch ac yn Aelod o’i Bwrdd. Yn yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear yr oedd Laurence yn Gyfarwyddwr Diogelwch Niwclear, Diogelwch a'r Amgylchedd yn ei rôl fel Prif Beiriannydd. Datblygodd a chyflwynodd Laurence gwrs MSc cyntaf y byd ar Ddiogelwch Niwclear, Amddiffyn a Gwarchod. Yr oedd Laurence yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Gwastraff Ymbelydrol.
Y mae Laurence wedi cyfrannu’n helaeth i ddiogelwch niwclear rhyngwladol. Yr oedd yn Gadeirydd Comisiwn yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ar Safonau Diogelwch, lle roedd yn gyfrifol am oruchwylio datblygiad safonau rhyngwladol ym meysydd diogelwch niwclear, amddiffyn rhag ymbelydredd, rheoli gweddillion gwastraff ymbelydrol a chludo defnyddiau niwclear. Yr oedd yn aelod o Grŵp Diogelwch Niwclear y Banc Ewropeaidd am Adluniad a Datblygu a’i Grŵp Ymgynghori Rhyngwladol Chernobyl a roddodd gyngor am adeiladu Cyfyngiad Diogel Newydd Chernobyl.
Laurence oedd prif awdur Arweiniad Sefydliad y Byd dros Ddiogelwch Niwclear (WINS) ar ddull cyfunol ar amddiffyn a diogelwch niwclear. Cadeiriodd Laurence yr ôl-arfarniad o’r rhaglen ymchwil ymhollti ac ymasiad niwclear Euratom FP7 a FP7 + 2 ac ef gadeiriodd yr arfarniad dros dro o’r rhaglen ymchwil ymhollti ac ymasiad niwclear Euratom 2014-18.
Jon Lloyd
Jon Lloyd
Cefndir
Mae'r Athro Jon Lloyd yn geomicrofiolegydd byd-enwog. Mae ei ymchwil ar y rhyngwyneb rhwng bioleg a daeareg yn mynd i'r afael â mecanweithiau trawsnewidiadau rhydocs microbaidd o haearn, a metelau eraill, metaloid a radioniwclidau. Mae Jon yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Williamson (WRC) ar gyfer Gwyddorau Moleciwlaidd Amgylcheddol, sy'n cynnig isadeiledd o’r radd flaenaf ar gyfer dadansoddiadau mwynyddol, geocemegol a microbaidd.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Drwy weithio gyda staff LNC sydd â hyfforddiant microbiolegol, mae Jon wedi hyrwyddo datblygiad isadeiledd LNC i wneud dadansoddiadau genomig ar samplau hynod o uchel mewn ymbelydredd
o Sellafield Cyf. Mae'r isadeiledd hwn yn ategu isadeiledd nodweddu biolegol lluofiliwn Manceinion, ac wedi eu cyfuno yn cynrychioli gallu unigryw yn y DU. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn sail i nodweddu twf algaidd mewn pyllau storio tanwydd gan arwain at PhD Nucl Eng Doc newydd ar fio-reoli algaidd mewn pyllau storio niwclear, gyda LNC a Sellafield yn 2013, ac efrydiaeth PhD EPSRC newydd yn 2014.
Mae Jon a gwyddonwyr amgylcheddol LNC yn parhau i ddatblygu'r maes hwn fel mater o flaenoriaeth. Ym maes adfer tir wedi ei lygru, gan weithio gydag arbenigwyr technegol a chymrodyr ymchwil Gwasanaethau Amgylcheddol LNC, mae Jon wedi denu cyllid Bwrsariaeth yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA) ar gyfer tri phrosiect PhD sy'n cael eu cyd-oruchwylio'n agos gan staff LNC ac sy'n cynyddu proffil ymchwil ac enw da LNC gyda'i gwsmeriaid. Mae Jon hefyd yn gweithio'n agos gyda staff LNC ar effaith microbioleg ar gael gwared a gwastraff ymbelydrol, er enghraifft trwy “MIND” rhaglen newydd yr UE a gychwynnwyd o dan y platfform IGDTP yn 2014.
Cyflawniadau Allweddol
Dyfarnwyd Medal Bigsby y Gymdeithas Ddaearegol i Jon yn 2006 (am waith arloesol ar fiocemeg radio-niwclid) ac fe’i enwyd fel un o 100 uchaf o wyddonwyr gweithredol y DU, y Cyngor Gwyddoniaeth yn 2014. Y mae wedi sicrhau dros 15M o gyllid dros y degawd ddiwethaf ac mae wedi cyhoeddi dros 190 o gyhoeddiadau, gyda nifer o gyfraniadau sydd wedi hybu’n dealltwriaeth o effaith prosesau microbaidd ar y cylchred tanwydd niwclear.
Yr oedd hefyd yn allweddol wrth sefydlu Canolfan Ymchwil Manceinion ar gyfer ‘Radwaste’ a Digomisiynu, gan arwain y cais llwyddiannus o £ 1.4M i’r Ganolfan yn 2010, y mae'n parhau i fod yn gysylltiedig â hi. Yn 2010 dyfarnwyd iddo secondiad Cymrodoriaeth Ddiwydiannol y Gymdeithas Frenhinol i’r LNC, gydag phenodiad cysylltiedig fel Uwch Gymrawd Gwadd LNC. Y mae hefyd wedi mentora ac annog staff LNC i ddatblygu eu gyrfaoedd ymchwil, eu diddordebau a'u cyhoeddiadau. Mae hyn yn cynnwys dyfarnu Cymrodoriaeth Ddiwydiannol y Gymdeithas Frenhinol i Nick Smith yn unol â thrawsffurfio technegol y LNC i Labordy Cenedlaethol.
Tim Abram
Tim Abram
Cefndir
Mae’r Athro Tim Abram wedi ennill dros 21 mlynedd o brofiad yn y sector niwclear yn y DU a’r UDA fel ei gilydd. Arweiniodd dîm y Tanwydd Niwclear Prydeinig Cyf (BNFL) a oedd yn gyfrifol am ddylunio rhoden danwydd a dadansoddi diogelwch ar gyfer gorsaf ynni niwclear fwyaf diweddar y DU, Sizewell B, ac am archeb allforio cyntaf y DU ar gyfer tanwydd ocsid cymysg (MOX, U, Pu). Cyn ymuno â Phrifysgol Manceinion roedd Tim yn Uwch Gymrawd Ymchwil ar gyfer Tanwydd a Systemau Adweithyddion Labordy Niwclear Cenedlaethol y DU. Ymunodd â Phrifysgol Manceinion yn 2008 fel deiliad cyntaf Cadair Westinghouse mewn Technoleg Tanwydd Niwclear
Meysydd Arbenigol Alweddol
Mae gan Tim brofiad mewn cynllunio, perfformiad a dadansoddi diogelwch pob prif fath o danwydd, ac yn natblygiad codau cyfrifiadurol ar gyfer dadansoddi perfformiad tanwydd mewn adweithyddion.
Cyflawniadau Allweddol
Tim yw cynrychiolydd y DU ar y Grŵp Technegol yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol (IAEA) ar Adweithyddion Cyflym a Systemau a Yrrir gan Gyflymydd ac mae wedi cymryd rhan mewn dros 15 rhaglen ymchwil y Fframwaith Ewropeaidd mewn technoleg tanwydd niwclear ac adweithyddion. Cyd-ysgrifennodd yr adran Danwydd a Defnyddiau o’r Map Ffordd Cenhedlaeth -IV ac mae'n cyfrannu fel cynrychiolydd Euratom a Chyd-gadeirydd y Bwrdd Rheoli Prosiect VHTR ar gyfer ymchwil Tanwydd a Chylchred Tanwydd.
Eann Patterson
Eann Patterson
Cefndir
Mae gan Eann yrfa academaidd nodedig mewn defnyddiau strwythurol a mecaneg gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y maes hwn. Mae wedi dal nifer o rolau allweddol o fewn academia yn y DU ac UDA, ac wedi gweithredu fel Cyd-gydlynydd consortia ymchwil aml-bartner.
Yr oedd gan Eann hefyd rolau fel Pennaeth yr Adran Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Sheffield, Cadair Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Talaith Michigan lle roedd hefyd yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Tywysydd Cyfansawdd.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Mae gan Eann wybodaeth allweddol yn gweithio gyda sawl sector diwydiannol gan gynnwys awyrofod, modurol, biofeddygol, morol a niwclear. Mae ganddo hefyd brofiad o weithio gyda yn ogystal â chynghori Llywodraeth yn UDA a'r DU.
Cyflawniadau Allweddol
Mae Eann wedi cael ei ddisgrifio fel ‘ffigwr carismatig gyda sgiliau cyfathrebu technegol allweddol’. Mae ganddo brofiad fel siaradwr mewn cynadleddau rhyngwladol, ymddangosiadau ar y cyfryngau yn UDA, awdur llyfr a mwy na 130 o bapurau a adolygir gan gymheiriaid. Y mae wedi cadeirio paneli cyllido, wedi bod yn olygydd ar nifer o gyfnodolion rhyngwladol ac wedi trefnu gweithdai. Cyflwynwyd Eann gyda Proffesoriaeth Hsue-Shen Tsien mewn Gwyddorau Peiriannegol am ei waith yn 2014 gan Sefydliad Mecaneg Academi Tsieineaidd y Gwyddorau. Y mae hefyd wedi bod yn allweddol wrth weithio gyda LNC i ddatblygu'r achos ar gyfer y Ganolfan Rhagoriaeth Cyfrifiadurol Niwclear.
Eann yw Cadeirydd A. A. Griffith, Defnyddiau a Mecaneg Strwythurol a Deiliad Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol yn yr Ysgol Beirianneg, Prifysgol Lerpwl.
Simon Walker
Simon Walker
Cefndir
Cyflogwyd Dr Simon Walker gan Awdurdod Ynni Atomig y Deyrnas Unedig, ynghlwm wrth astudiaethau diogelwch adweithyddion. Yn dilyn hynny bu’n gweithio i Shell Rhyngwladol, yn yr Iseldiroedd a Chanada, lle bu’n arwain grŵp a oedd yn cynnal gwerthusiad ariannol a modelu datblygiadau olew a nwy arfaethedig. Ar hyn o bryd mae Simon yn bennaeth y Grŵp Ymchwil Niwclear yn yr Adran Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Imperial Llundain. Mae'r grŵp yn cymryd rhan mewn ymchwil i wahanol agweddau ar ddiogelwch a chynllunio adweithyddion niwclear. Mae ei ddarlithoedd prifysgol yn cwmpasu ynni niwclear, economeg cynhyrchu niwclear, ac economeg reolaethol. Mae'n gysylltiedig â rolau ymgynghori ac ymgynghorol mewn pŵer niwclear llongau tanfor a sifil.
Meysydd Arbenigol Allweddol
Y mae Simon yn rhan o gonsortiwm a arweinir gan LNC sy’n darparu mewnbwn i raglen sydd yn ei ddyddiau cynnar ar gyfer adweithydd datblygedig cenedlaethol i’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) trwy ei arweinyddiaeth o faes ffiseg adweithydd a hydroleg thermol. Y mae'n aelod o weithgor adweithyddion datblygedig o fewn NIRAB ac mae ganddo fwriadau i gynnig am gyllid DECC / BIS i adeiladu cyfleuster hydroleg thermol cenedlaethol. Y mae Simon yn gyfuniad prin iawn o arweinydd ymchwil academaidd hynod dalentog sydd yn meddu ar werthfawrogiad rhagorol o anghenion y diwydiant niwclear pan yn gweithio dan gyfyngiadau amser, ariannol a rheolaethol.
Cyflawniadau Allweddol
Mae Simon wedi cyhoeddi dros 60 o bapurau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a thros 25 mewn trafodion cynhadleddau yn bennaf ar ragfynegiad rhifiadol ffenomenau electromagnetaidd, ffiseg adweithydd, hydroleg thermol niwclear a dadansoddiad damweiniau difrifol PWR. Y mae wedi cyflwyno nifer o ddarlithoedd cyhoeddus nid yn unig ar y wyddoniaeth y tu ôl i bwer niwclear ond hefyd ar economeg cynhyrchu niwclear ac adeiladu o'r newydd. Yn ogystal mae Simon yn awdurdod byd-eang ar drosglwyddo gwres bwndel tanwydd PWR yn benodol wrth ddeall effaith dylanwad diraddiol sothach ar berfformiad gorchudd ac mae wedi ymrwymio i ymchwil rhyngwladol a darlithio.