National Nuclear Laboratory

Antonio Di Buono

  • Prifysgol Manceinion – Ysgol Peirianneg Trydanol ac Electronig
  • Goruchwylwyr Academaidd: Peter R Green, Barry Lennox
  • Goruchwyliwr Diwydiannol: Neil Cockbain
  • Llinell amser y Prosiect: Ebrill 2017 i Ebrill 2020
  • Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Cyfathrebu di-wifr, Effeithiau ymbelydredd, rhwydweithiau synhwyrydd diwifr a synhwyro o bell
  • Cymwysterau Academaid: Meistr yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Niwclear – Prifysgol Pisa
  • Proffil Prifysgol, tudalen LinkedIn

CYFATHREBU DI-WIFR MEWN AMGYLCHEDDAU DIGOMISIYNU NIWCLEAR

Bwriad fy mhrosiect ymchwil yw dadansoddi’r heriau a chyfleoedd mewn perthynas â’r defnydd o gyfathrebu di-wifr yn y diwydiant niwclear, yn arbennig pan yn defnyddio cyfathrebu di-wifr i ddarparu synhwyro o bell mewn man o ymbelydredd uchel. Mae’r defnydd o Rwydweithiau Synhwyro Di-wifr (WSN) yn cynyddu’n gyflym o fewn diwydiant ac amaethyddiaeth. Yn y diwydiant niwclear mae ymdrech sylweddol wedi ei wneud i ddefnyddio rhwydweithiau synhwyro di-wifr ar gyfer offeryniaeth a rheoli. Fodd bynnag, mae rhai heriau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd penodol a geir yn y diwydiant digomisiynu niwclear, y mae angen i ni eu hwynebu i arddangos ei bod yn bosibl defnyddio cyfathrebu di-wifr yn effeithiol ac yn ddiogel. Mae’r heriau hyn yn cynnwys ffynonellau pŵer cyfyngedig, goddefaint ymbelydrol y synhwyrydd a darnau cydrannol y system gyfathrebu, signalau di-wifr gwan drwy waliau wedi’u hatgyfnerthu, a’r angen i ddarparu cyfathrebu cadarn, rhyngweithiadwy a dibynadwy. Canlyniad terfynol fy mhrosiect fydd cynllunio, gweithredu a gwerthuso arbrofol o Rwydwaith Synhwyro Di-wifr i arolygu tymheredd a lleithder yn yr amgylchedd digomisiynu niwclear. Ers dechrau fy astudiaethau yr wyf wedi ymddiddori ym maes digomisiynu niwclear a rheoli gwastraff. Bydd gwneud fy PhD yng Nghanolfan Digomisiynu Niwclear Arloesol yn rhoi cyfle i mi ddatblygu prototeip ar gyfer cymhwysiad diwydiannol real i ddangos canlyniadau’r ymchwil hwn.

Cynnyrch

Conference paper: A. Di Buono, N. Cockbain, P. Green, and B. Lennox, ‘Wireless Communications in Nuclear Decommissioning Environments’ Paper presented at UK-RAS Conference on ‘Robotics and Autonomous Systems, Bristol, United Kingdom, 12/12/17, pp. 71-73.

Conference paper: A. Di Buono, P. R. Green, B. Lennox, N. Cockbain and X. Poteau, “Design of a Wireless Sensing System for Deployment in Nuclear Decommissioning Environments”, 11th International Topical Meeting on Nuclear Plant Instrumentation, Control and Human Machine Interface Technologies, NPIC & HMIT 2019. American Nuclear Society ANS, (2019).