
- Prifysgol Caerhirfryn – Adran Beirianneg
- Goruchwylwyr Academaidd: Colin Boxall, James Taylor
- Goruchwyliwr Diwydiannol: Anthony Banford
- Llinell amser y Prosiect: Hydref 2017 – Medi 2021
- Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Cemeg Actinid, Cemeg Seramig Arwyneb, Mwnoleg Seramig
- Cymwysterau Academaidd: Cemeg BSc (Anrh), Ffiseg a Thechnoleg Adweithyddion Niwclear MSc
- Proffil Prifysgol, tudalen LinkedIn
DADLYGRYU ARWYNEBAU BRICS WEDI EU HALOGI Â PHLWTONIWM
Rwy’n ymchwilydd PhD ar hyn o bryd yn fy nhrydedd flwyddyn. Mae fy ymchwil yn edrych ar ddatblygiad proses dadlygru sy’n seiliedig ar gemeg er mwyn digomisiynu adeiledd brics a lygrwyd â phlwtoniwm. Mae’r gallu i dynnu cyfran fawr o’r llygredd o’r adeiledd yn lleihau’n sylweddol gymhlethdod y dymchweliad a chael gwared â’r defnydd. Bydd fy ymchwil yn datblygu llygredd efelychiad anweithredol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn lle plwtoniwm er mwyn canfod yr effeithiau y mae’r llygredd yn ei gael ar fwnoleg a chemeg arwyneb y fricsen. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu dull / datrysiad dadlygru ar gyfer cael gwared o’r plwtoniwm.