National Nuclear Laboratory

Tomas Fried

  • Prifysgol Caerhirfryn – Adran Beirianneg
  • Goruchwylwyr Academaidd: David Cheneler, Stephen Monk, James Taylor
  • Goruchwyliwr Diwydiannol: Jonathan Dodds
  • Llinell amser y Prosiect: Hydref 2017 i Mawrth 2021
  • Meysydd ymchwil o ddiddordeb: Rheoleg slwtsh, cynffurfiau cyflym, dadansoddi o bell
  • Cymwysterau Academaidd: Baglor mewn Peirianneg Mecanyddol a Meistr yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Mecanyddol – Prifysgol Technoleg Brno
  • Proffil Prifysgol, tudalen LinkedIn

DADANSODDIAD YN Y FAN A’R LLE O SLWTSH MEWN AMGYLCHEDDAU PERYGLUS

Ar safle Sellafield mae nifer o danciau storio gwaddol a silos sy’n cynnwys slwtsh o nodweddion ansicr. Tra fod ymdrechion i bennu gwnaethuriad cemegol a radiolegol y slwtsh, er mwyn glanhau a digomisiynu’r tanciau a’r silos mae angen darganfod y priodweddau ffisegol hefyd. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â datblygu dyfais newydd, rhad, cadarn a chywasgedig sy’n gallu dadansoddi o bell ymddygiad, dwysedd a thymheredd y slwtsh ymbelydrol yn y fan a’r lle. Mae’r ddyfais yn cael ei datblygu gyda gwahanol elfennau masnachol oddi ar y silff a thechnegau prototeipio cyflym modern. Gall y prototeip cyfredol a ddatblygwyd fynd drwy agoriad 75 mm ac mae ond yn cynnwys cydrannau cadarn sy’n medru goddef ymbelydredd . Mae cael fy lleoli gyda’r diwydiant yn gyfle gwych i ddatblygu datrysiadau effeithiol a gweld ffrwyth fy ngwaith yn cael ei gymhwyso ac mae gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr eraill sy’n ymdrin â heriau amrywiol hefyd yn gyfle rhyfeddol i ddysgu.

Cynnyrch

Conference poster: Fried, T, Cheneler, D, Monk, SD, Taylor, CJ & Dodds J. (2019). In Situ Mechanical Analysis of Sludge in Hazardous Environments. Poster session presented at Waste Management Symposia 2019, Phoenix, United States.

Journal article: Fried, T., Cheneler, D., Monk, S. D., Taylor, C. J., & Dodds, J. (2019). Compact viscometer prototype for remote in-situ analysis of sludge. Sensors19(15), [3299]. https://doi.org/10.3390/s19153299