National Nuclear Laboratory

Gradd Dylunio Peirianegol

Mae ein Dylunwyr Peirianegol nid yn unig yn darparu perfformiad peirianegol gorau posibl ar draws safleoedd, ond maent hefyd yn gyfrifol am ddatblygu rhai o’r rhaglenni datblygiad niwclear mwyaf arloesol, a fabwysiadwyd yn fyd-eang.

Mewn Peirianneg Fecanyddol a Rheoleiddio ac Offeru Drydanol (EC&I) byddwch yn cael hyfforddiant ym mhob agwedd o ddylunio ac yn dilyn llwybr Prentisiaeth, wedi’i deilwra i’ch disgyblaeth ddylunio.

Mae’n hanfodol fod Dylunwyr Peirianegol yn ymwybodol o ddiogelwch a bod â sgiliau TG, mathemateg a chyfathrebu da. Bydd angen i chi gael golwg lliw perffaith ac felly mae’n rhaid i chi gyflawni prawf golwg lliw.

Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?

Fel rhan o’ch prentisiaeth byddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn arddangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer ein Prentisiaeth Dylunio Peirianegol byddwch yn dilyn y Safon Technegydd Niwclear ar Lefel 5. Ar ôl cwblhau’r safon hwn, yn ddibynnol ar berfformiad, byddwn yn eich cofrestru ar safon prentisiaeth Peiriannydd Niwclear ar lefel 6 i gwblhau eich Gradd Peirianneg. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn:

Level 5 – https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-nuclear-technician-approved-for-delivery  

Level 6 – https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-nuclear-scientist-and-nuclear-engineer

Ar gyfer y flwyddyn gyntaf o’r Prentisiaeth Gradd Dylunio Peirianegol byddwch yn treulio eich amser mewn cyfleuster hyfforddi oddi ar y safle a fydd yn dysgu’r holl sgiliau peirianneg allweddol y byddwch eu hangen fel rhan o’ch prentisiaeth. Byddwch yn dysgu am:

  • lechyd a diogelwch
  • Gosod trydanol neu gynnal a chadw mecanyddol
  • Sodro / Gosod Mainc
  • Darganfod diffygion
  • Defnyddio offer yn ddiogel
  • Melino
  • Turnoriaeth
  • Lluniadu Peirianegol

Yn dilyn eich blwyddyn gyntaf yn y cyfleuster hyfforddi byddwch wedyn yn ymuno â thîm Dylunio LNC yn un o’n safleoedd ac yn mynychu Coleg ar sail rhyddhad undydd.

Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?

Bydd eich diwrnod gwaith yn cynnwys:

  • Sut i weithio mewn dull diogel: byddwch yn dod yn gyfarwydd â chanllawiau a rheoliadau’r diwydiant fel LOLER, PUWER a COSHH
  • Cynhyrchu lluniadau a dyluniadau gan ddefnyddio Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
  • Auto-CAD a rhaglenni dylunio a phrototeipio ychwanegol
  • Cynnal a chadw offer cyfredol a chynhyrchu darnau newydd yn ôl yr angen
  • Datrys problemau a chanfod diffygion

Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?

Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o safonau prentisiaeth Technegydd Niwclear Lefel 5. Pe baech yn parhau ymlaen at eich safon prentisiaeth Peiriannydd Niwclear Lefel 6 byddwch yn astudio ar gyfer gradd Baglor mewn Peirianneg (wedi’i theilwro i’r ddisgyblaeth o’ch dewis).

Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?

Yr ydym yn cynnig ein Prentisiaeth Dylunio Peirianegol yn ein safleoedd yn Warrington a Sellafield.

Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?

Bydd gennych gefndir academaidd da yn barod pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Fe ddylech fod wedi ennill 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Byddwch ar y trywydd iawn i gyflawni neu wedi cyrraedd Lefel A ar isafswm marc C (rhaid i un ohonynt fod mewn Peirianneg) neu BTEC mewn Peirianneg ar radd Llwyddo.

Yr ydym yn chwilio am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd eisiau bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?

Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.