National Nuclear Laboratory

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn LNC yn agor byd o botensial, gan roi y wybodaeth a’r profiad i’ch helpu i wireddu eich amcanion gyrfaol.

Yr ydym yn cynnig prentisiaethau mewn amryw o feysydd o wyddoniaeth a pheirianneg i rheolaeth prosiect a gweinyddu busnes. Mi ddysgwch gan arbenigwyr diwydiant arloesol yn rhai o gyfleusterau mwyaf blaenllaw’r byd.

Fel prentis LNC, gallwch gynorthwyo i rannu dyfodol y diwydiant. Yr ydym yn falch bod 95% o’n prentisiaid wedi symud ymlaen i rolau parhaol gyda ni.

Er mwyn eich croesawu i’r busnes, mae pob prentis yn ymuno â rhaglen tri diwrnod. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth i chi am y busnes, y rhaglen y byddwch yn ei dilyn a’r hyn y byddwn ni’n ei ddisgwyl gennych.

Ac yna byddwch yn dechrau eich prentisiaeth: gan gyfuno’r profiad gwaith â sesiynau hyfforddi sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad personol am yr ychydig fisoedd cyntaf.

Mae recriwtio prentisiaid yn tueddu i ddigwydd ym mis Ionawr, felly cadwch olwg ar y dudalen hon bob hyn a hyn i ddarganfod mwy am rolau penodol a sut i wneud cais.

To find out more, download our Beginner to Winner Apprentice flyer.