National Nuclear Laboratory

Crefft Trydanol

Mae Trydanwyr Crefft yn cynnal a thrwsio ystod amrywiol o offer trydanol sy’n hanfodol ar gyfer diogelwch ac effeithiolrwydd pob rhan o’n safleoedd.

Yn hynod fedrus gydag agwedd resymegol a threfnus tuag at eu gwaith, mae trydanwyr yn gweithio gydag offer trydanol a chyflenwadau ar ystod eang o beiriannau ac offer peirianegol. Mae golwg lliw perffaith yn hanfodol ar gyfer y gwaith cymhleth hwn.

Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?

Fel rhan o’ch prentisiaeth mi fyddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn dangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer ein Prentisiaeth Crefft Trydanol byddwch yn dilyn y Safon Technegydd Peiriannol Cynnal a Chadw a Gweithrediadau ar Lefel 3. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn: https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-maintenance-operations-engineering-technician

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich Prentisiaeth Crefft Trydanol byddwch yn treulio eich amser yn y cyfleuster hyfforddi ar y safle a fydd yn dysgu’r holl sgiliau peirianneg allweddol y bydd eu hangen arnoch fel rhan o’ch prentisiaeth. Byddwch yn dysgu am:

  • lechyd a diogelwch
  • Gosod trydanol
  • Cynnal a Chadw
  • Sodro
  • Darganfod diffygion
  • Electroneg
  • Offeru
  • Diogelwch trydanol
  • Defnyddio offer yn ddiogel
  • Lluniadu Peirianegol

Yn dilyn eich blwyddyn gyntaf yn yr ysgol hyfforddi fe fyddwch wedyn yn ymuno â thîm Crefft LNC yn un o’n safleoedd ac yn mynychu Coleg ar sail rhyddhad undydd.

Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?

Bydd eich diwrnod gwaith yn cynnwys:

  • Rheoli a chynnal cyfarpar offeru
  • Mesur a rheoleiddio newidynnau proses yn fanwl gywir, megis cyfradd llif hylifau neu nwyon, tymheredd neu bwysedd
  • Gosod amrywiaeth o brosiectau trydanol o gylchedau cartref domestig i beirianwaeth ac offer soffistigedig, hynod o gymhleth mewn gweithfeydd a ffatrïoedd prosesu mawr
  • Cynnal a phrofi offer trydanol ac offeru, systemau a dyfeisiau
  • Gwneud diagnosis a chael hyd i broblemau gydag offer trydanol.

Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?

Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o’r safonau prentisiaeth Technegydd Peiriannol Cynnal a Chadw a Gweithrediadau Lefel 3

Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?

Rydym yn cynnig ein Prentisiaeth Crefft Trydanol yn ein safleoedd ym Mhreston a Sellafield.

Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?

Bydd gennych gefndir academaidd da pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Dylech fod wedi cael neu fod ar y trywydd iawn i gyflawni 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Yr ydym yn edrych am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd yn dymuno bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn.

Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?

Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.