National Nuclear Laboratory

Rheolaeth Prosiect

Ein Rheolwyr Prosiect ymroddedig a dyfeisgar sy’n rheoli darpariaeth llyfn prosesau a rhaglenni datblygedig ar draws pob adran o’r sector ynni niwclear – o fewn y gyllideb ac ar amser. Mae Rheolaeth Prosiect yn broffesiwn sy’n tyfu gyda rhagolygon gyrfa dda ledled y byd.

Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?

Fel rhan o’ch prentisiaeth byddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn dangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer ein Prentisiaeth Rheolaeth Prosiect byddwch yn dilyn y Safon Rheolaeth Prosiect Cynorthwyol ar Lefel 4. Ar ôl cwblhau’r safon hwn, yn ddibynnol ar berfformiad, byddwn yn eich cofrestru ar y safon prentisiaeth lefel 6 i gwblhau eich Gradd Rheolaeth Prosiect. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn:

Level 4 – https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-associate-project-manager

Byddwch yn dysgu am:

  • Rheolaeth Prosiect
  • Rolau a chyfrifoldebau prosiect
  • Cynllunio achosion busnes
  • Cylchoedd bywyd prosiectau a diffiniad o brosiect
  • Cynlluniau gweithredu prosiect
  • Rheoli risg
  • Ansawdd
  • Amserlennu prosiect
  • Amcangyfrif

Yn dilyn eich anwythiad byddwch yn ymuno â’r tîm Rheolaeth Prosiect am 4 diwrnod yr wythnos yn ein cyfleusterau ac yn mynychu Coleg ar sail rhyddhad undydd.

Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?

  • Cynllunio pa waith sydd angen ei wneud, pryd a phwy sy’n mynd i’w gyflawni
  • Edrych ar y risgiau sy’n gysylltiedig â phrosiect penodol a’u rheoli
  • Sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i’r safon gywir
  • Ysgogi’r tîm sy’n ymwneud â’r prosiect
  • Cydlynu gwaith a wneir gan wahanol bobl
  • Sicrhau fod y prosiect yn rhedeg ar amser ac yn unol â’r gyllideb
  • Ymdrin â newidiadau i’r prosiect yn ôl yr angen
  • Sicrhau bod y prosiect yn cyflawni’r canlyniadau a’r buddion disgwyliedig
  • Defnyddio gwybodaeth dechnegol arbenigol ar rai prosiectau

Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?

Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o safonau prentisiaeth Rheolwr Prosiect Cysylltiedig Lefel 4.

Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?

Yr ydym yn cynnig ein Prentisiaeth Rheolaeth Prosiect yn ein safleoedd yn Warrington a Sellafield.

Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?

Bydd gennych gefndir academaidd da pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Dylech fod wedi cael neu fod ar y trywydd iawn i gyflawni 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Yr ydym yn edrych am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd yn dymuno bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn.

Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?

Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.