Mae ein Crefftwyr Mecanyddol yn arbenigo mewn cynnal a chadw, ac weithiau gynhyrchu, yr holl offer mecanyddol i sicrhau’r lefelau perfformiad gorau posibl a chyson. Mae crefftwyr mecanyddol yn hynod alluog a gallant weithio mewn ystod eang o ddiwydiannau a sectorau gyda gweithfeydd ac offer cymhleth.
Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?
Fel rhan o’ch prentisiaeth byddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn dangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer ein Prentisiaeth Crefft Mecanyddol, mi fyddwch yn dilyn Safon Technegydd Peiriannol Cynnal a Chadw a Gweithrediadau ar Lefel 3. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn: https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-maintenance-operations-engineering-technician
Yn ystod blwyddyn gyntaf y Brentisiaeth Crefft Mecanyddol mi fyddwch yn treulio eich hamser yn y cyfleuster hyfforddi ar y safle a fydd yn dysgu’r holl sgiliau peirianneg allweddol y byddwch eu hangen fel rhan o’ch prentisiaeth. Byddwch yn dysgu am:
- lechyd a diogelwch
- Gosod mainc
- Cynnal a chadw mecanyddol
- Darganfod diffygion
- Defnyddio offer yn ddiogel
- Melino
- Turnoriaeth
- Gosod pibellau sylfaenol
- Auto CAD Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur
Yn dilyn eich blwyddyn gyntaf yn yr ysgol hyfforddi fe fyddwch wedyn yn ymuno â thîm Crefft LNC yn un o’n safleoedd ac yn mynychu Coleg ar sail rhyddhad undydd.
Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?
Bydd eich diwrnod gwaith yn cynnwys:
- Cynhyrchu darnau cydrannol
- Adeiladu a gosod peiriannau
- Parhau i gynnal a chadw offer
- Trin gwaith yn fanwl a chywir
- Ymdrin â gwaith yn rhesymegol a gyda sylw trylwyr i fanylion
- Dehongli lluniadau a diagramau
- Gwneud diagnosis a chael hyd i broblemau gyda pheiriannau ac offer
- Cydweithredu â chydweithwyr i sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i safon uchel
Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?
Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o’r safonau prentisiaeth Technegydd Peiriannol Cynnal a Chadw a Gweithrediadau Lefel 3
Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?
Yr ydym yn cynnig ein Prentisiaeth Crefft Mecanyddol yn ein safleoedd ym Mhreston a Sellafield.
Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?
Bydd gennych gefndir academaidd da pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Dylech fod wedi cael neu fod ar y trywydd iawn i gyflawni 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Yr ydym yn edrych am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd yn dymuno bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn.
Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?
Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.