Mae Trydanwyr Crefft yn cynnal a thrwsio ystod amrywiol o offer trydanol sy’n hanfodol ar gyfer diogelwch ac effeithiolrwydd pob rhan o’n safleoedd.
Yn hynod fedrus gydag agwedd resymegol a threfnus tuag at eu gwaith, mae trydanwyr yn gweithio gydag offer trydanol a chyflenwadau ar ystod eang o beiriannau ac offer peirianegol. Mae golwg lliw perffaith yn hanfodol ar gyfer y gwaith cymhleth hwn.
Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?
Fel rhan o’ch prentisiaeth mi fyddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn dangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer ein Prentisiaeth Crefft Trydanol byddwch yn dilyn y Safon Technegydd Peiriannol Cynnal a Chadw a Gweithrediadau ar Lefel 3. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn: https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-maintenance-operations-engineering-technician
Yn ystod blwyddyn gyntaf eich Prentisiaeth Crefft Trydanol byddwch yn treulio eich amser yn y cyfleuster hyfforddi ar y safle a fydd yn dysgu’r holl sgiliau peirianneg allweddol y bydd eu hangen arnoch fel rhan o’ch prentisiaeth. Byddwch yn dysgu am:
- lechyd a diogelwch
- Gosod trydanol
- Cynnal a Chadw
- Sodro
- Darganfod diffygion
- Electroneg
- Offeru
- Diogelwch trydanol
- Defnyddio offer yn ddiogel
- Lluniadu Peirianegol
Yn dilyn eich blwyddyn gyntaf yn yr ysgol hyfforddi fe fyddwch wedyn yn ymuno â thîm Crefft LNC yn un o’n safleoedd ac yn mynychu Coleg ar sail rhyddhad undydd.
Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?
Bydd eich diwrnod gwaith yn cynnwys:
- Rheoli a chynnal cyfarpar offeru
- Mesur a rheoleiddio newidynnau proses yn fanwl gywir, megis cyfradd llif hylifau neu nwyon, tymheredd neu bwysedd
- Gosod amrywiaeth o brosiectau trydanol o gylchedau cartref domestig i beirianwaeth ac offer soffistigedig, hynod o gymhleth mewn gweithfeydd a ffatrïoedd prosesu mawr
- Cynnal a phrofi offer trydanol ac offeru, systemau a dyfeisiau
- Gwneud diagnosis a chael hyd i broblemau gydag offer trydanol.
Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?
Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o’r safonau prentisiaeth Technegydd Peiriannol Cynnal a Chadw a Gweithrediadau Lefel 3
Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?
Rydym yn cynnig ein Prentisiaeth Crefft Trydanol yn ein safleoedd ym Mhreston a Sellafield.
Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?
Bydd gennych gefndir academaidd da pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Dylech fod wedi cael neu fod ar y trywydd iawn i gyflawni 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Yr ydym yn edrych am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd yn dymuno bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn.
Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?
Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.