Mae pandemig Coronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith ar bob person a phob sefydliad yn y wlad – gan gynnwys LNC. Ers i’r salwch gychwyn yr ydym wedi bod yn gweithredu mesurau i ddiogelu ein pobl, eu teuluoedd, eu cymunedau a’r gymdeithas gyfan.
Ein pobl
Cyn gynted ag y daeth difrifoldeb COVID-19 i’r amlwg, fesul cam mi wnaethom gynghori unrhyw gydweithiwr a oedd y fregus i weithio o adref, i leihau y risg o unrhyw haint. Yn ogystal, gallai amryw o gydweithwyr a oedd â chyfrifoldebau gofalu a’r rhai oedd i fod i hunanynysu rhag dal y salwch hefyd weithio o adref. Ers hynny, er mwyn lleihau nifer y bobl a oedd yn dod i mewn i’w gwaith, yn unol â chyngor iechyd cyhoeddus a chanllawiau’r Llywodraeth gwnaethom annog y mwyafrif helaeth o’n gweithwyr i weithio o adref. Cyn y pandemig yr oedd llai na hanner ein pobl wedi arfer â gweithio o bell. Yn ei sgil, mi wnaethom weithredu yn sydyn i brynu a ffurfweddu gliniaduron ychwanegol, yn ogystal â’r isadeiledd i alluogi y rhain i gael eu defnyddio o bell. Yr ydym hefyd wedi galluogi dros 100 o beiriannau byrddau gwaith ar gyfer gweithredu o bell, fel y gall cydweithwyr sy’n defnyddio meddalwedd arbenigol (er enghraifft ein timau modelu mathemategol) hefyd weithio o adref. Erbyn diwedd mis Mawrth, yr oedd dros 900 o’n 940 aelod o staff gyda chyfarpar TG i weithio o adref. Mae llawer ohonynt wedi manteisio ar y cyfle i symud monitorau, cadeiriau desg ac offer swyddfa eraill i’w cartrefi er mwyn gwneud y trawsnewid hwn yn haws.
Drwy gydol y pandemig yr ydym wedi cyfathrebu’n rheolaidd â’n gweithlu – trwy nifer o sesiynau rhagbaratoi timau arbennig, e-byst uniongyrchol, tudalen bwrpasol ar ein mewnrwyd a llinell ffôn 24/7 sydd wedi galluogi cydweithwyr i wirio statws gweithredol diweddaraf ein labordai.
Ein busnes
O ran ein gwaith yn ein cyfleusterau niwclear arbenigol, buom yn gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid i adnabod nifer fach o raglenni o bwys cenedlaethol, sy’n angenrheidiol i ddyfodol hir-dymor y wlad – gan barhau i weithredu a chynnal ein hataliad diogelwch. Yr ydym wedi lleihau ein presenoldeb yn ein labordai ar ein safleoedd i’r cydweithwyr LNC hynny sydd unai’n angenrheidiol yn uniongyrchol i ddarparu’r rhaglenni tyngedfennol hyn neu sydd eu hangen i sicrhau gweithrediad diogel y cyfleusterau lle gwneir y gwaith hwn.
Mae’r holl staff LNC eraill sy’n gysylltiedig â’r cyfleusterau yn awr adref – yn diogelu eu hunain ac hefyd eu cydweithwyr ar y safle. Mae ein hymgyrch o weithio o bell wedi sicrhau y gall mwyafrif o’r bobl hyn aros yn gynhyrchiol tra nad ydynt yn eu gweithle arferol.
Cefnogaeth i’r gymuned
Yr ydym wedi cyfrannu offer diogelu personol (PPE) i’r GIG lle yr ydym wedi cydnabod y gallai hyn fod o gymorth iddynt. Rhoddwyd un casgliad yn gynnar iawn yn yr argyfwng gan un o’n prifysgolion, lle yr oedd yn weddill o waith a ariannwyd gan LNC. Yn fwy diweddar gwnaethom gyfrannu swm sylweddol o Cymbria i’r GIG leol yno.
Yr ydym ar hyn o bryd yn archwilio a ellid cynhyrchu fisorau wyneb diogelwch ar gyfer y GIG yn ein safle yn Workington gan ddefnyddio peth o’n gallu argraffu 3D, a hefyd i’r posibilrwydd y gallwn gynhyrchu glanweithydd dwylo yn ein labordai.
Yr ydym wedi cynnig cynyddu ein cefnogaeth dechnegol i’r Adran Busnes, Ynni a Stategaeth Ddiwydiannol (BEIS) trwy’r Swyddfa Ymchwil Arloesi Niwclear (NIRO), i gydnabod y ffaith fod nifer o staff parhaol BEIS wedi’u hadleoli i gefnogi’r ymateb i COVID-19 ar draws y Llywodraeth. Ac yr ydym yn gweithio’n galed i ddatblygu arweiniad i’n pobl a allai fod eisiau gwirfoddoli i gynorthwyo yn y gymuned – yn arbennig y bobl hynny nad ydynt efallai’n gallu gweithio mor gynhyrchiol ag arfer o adref oherwydd natur eu gwaith.
Ein cadwyn gyflenwi
Mae gennym ardal benodol o fewn ein hardal Cyflenwyr o’r wefan yma (https://www.nnl.co.uk/suppliers/coronavirus-information/), ble mae arweiniad i gyflenwyr ar sut y gallant ymgysylltu â ni i drafod ein hanghenion parhaus, ynghyd â dolenni cyswllt at amrywiaeth o wybodaeth ddiweddaraf ar y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau drwy’r pandemig COVID-19.