Mae ein Dylunwyr Peirianegol nid yn unig yn darparu perfformiad peirianegol gorau posibl ar draws safleoedd, ond maent hefyd yn gyfrifol am ddatblygu rhai o’r rhaglenni datblygiad niwclear mwyaf arloesol, a fabwysiadwyd yn fyd-eang.
Mewn Peirianneg Fecanyddol a Rheoleiddio ac Offeru Drydanol (EC&I) byddwch yn cael hyfforddiant ym mhob agwedd o ddylunio ac yn dilyn llwybr Prentisiaeth, wedi’i deilwra i’ch disgyblaeth ddylunio.
Mae’n hanfodol fod Dylunwyr Peirianegol yn ymwybodol o ddiogelwch a bod â sgiliau TG, mathemateg a chyfathrebu da. Bydd angen i chi gael golwg lliw perffaith ac felly mae’n rhaid i chi gyflawni prawf golwg lliw.
Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?
Fel rhan o’ch prentisiaeth byddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn arddangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer ein Prentisiaeth Dylunio Peirianegol byddwch yn dilyn y Safon Technegydd Niwclear ar Lefel 5. Ar ôl cwblhau’r safon hwn, yn ddibynnol ar berfformiad, byddwn yn eich cofrestru ar safon prentisiaeth Peiriannydd Niwclear ar lefel 6 i gwblhau eich Gradd Peirianneg. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn:
Ar gyfer y flwyddyn gyntaf o’r Prentisiaeth Gradd Dylunio Peirianegol byddwch yn treulio eich amser mewn cyfleuster hyfforddi oddi ar y safle a fydd yn dysgu’r holl sgiliau peirianneg allweddol y byddwch eu hangen fel rhan o’ch prentisiaeth. Byddwch yn dysgu am:
- lechyd a diogelwch
- Gosod trydanol neu gynnal a chadw mecanyddol
- Sodro / Gosod Mainc
- Darganfod diffygion
- Defnyddio offer yn ddiogel
- Melino
- Turnoriaeth
- Lluniadu Peirianegol
Yn dilyn eich blwyddyn gyntaf yn y cyfleuster hyfforddi byddwch wedyn yn ymuno â thîm Dylunio LNC yn un o’n safleoedd ac yn mynychu Coleg ar sail rhyddhad undydd.
Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?
Bydd eich diwrnod gwaith yn cynnwys:
- Sut i weithio mewn dull diogel: byddwch yn dod yn gyfarwydd â chanllawiau a rheoliadau’r diwydiant fel LOLER, PUWER a COSHH
- Cynhyrchu lluniadau a dyluniadau gan ddefnyddio Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
- Auto-CAD a rhaglenni dylunio a phrototeipio ychwanegol
- Cynnal a chadw offer cyfredol a chynhyrchu darnau newydd yn ôl yr angen
- Datrys problemau a chanfod diffygion
Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?
Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o safonau prentisiaeth Technegydd Niwclear Lefel 5. Pe baech yn parhau ymlaen at eich safon prentisiaeth Peiriannydd Niwclear Lefel 6 byddwch yn astudio ar gyfer gradd Baglor mewn Peirianneg (wedi’i theilwro i’r ddisgyblaeth o’ch dewis).
Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?
Yr ydym yn cynnig ein Prentisiaeth Dylunio Peirianegol yn ein safleoedd yn Warrington a Sellafield.
Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?
Bydd gennych gefndir academaidd da yn barod pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Fe ddylech fod wedi ennill 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Byddwch ar y trywydd iawn i gyflawni neu wedi cyrraedd Lefel A ar isafswm marc C (rhaid i un ohonynt fod mewn Peirianneg) neu BTEC mewn Peirianneg ar radd Llwyddo.
Yr ydym yn chwilio am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd eisiau bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?
Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.