Fel Gwyddonydd niwclear, byddwch yn gweithio ar reng flaen y rhaglen ymchwil a datblygiad niwclear sy’n gwneud LNC yn un o arweinwyr byd-eang ym maes ynni niwclear.
Mae angen technegwyr gwyddonol i brofi a graddnodi offer yn ogystal â chynnal ymchwiliadau a dadansoddi samplau. Byddwch yn gweithio gyda sylweddau peryglus, yn dysgu am weithdrefnau iechyd a diogelwch ac arferion gweithio diogel.
Beth fydd fy mhrentisiaeth yn ei olygu?
Fel rhan o’ch prentisiaeth byddwch yn dilyn safon prentisiaethol. Mae safonau prentisiaethol yn dangos yr hyn y byddwch yn ei wneud fel rhan o’ch prentisiaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol fel rhan o rôl y swydd honno. Ar gyfer eich Prentisiaeth Wyddonol byddwch yn dilyn Safon Technegydd Labordy ar Lefel 3. Ar ôl cwblhau y safon hon, yn ddibynnol ar berfformiad, fe fyddwn yn eich cofrestru ar safon prentisiaeth Gwyddonydd Niwclear ar lefel 6 i gwblhau eich Gradd Cemeg. Gellir cael mwy o wybodaeth am y safonau a sut y byddwch yn cael eich hasesu ar ddiwedd eich prentisiaeth yn:
Level 3 – https://www.gov.uk/government/publications/apprenticeship-standard-laboratory-technician
Byddwch yn dysgu am:
- Graddnodi
- Samplu a titradu
- Cynnal archwiliadau a phrofion
- Asesu data ac ysgrifennu adroddiadau
- Ymdrin â data technegol
- Datblygu technegau cyflwyno
Yn dilyn eich anwythiad byddwch yn ymuno â’ch tîm technegol am 4 diwrnod yr wythnos yn ein cyfleusterau ac yn mynychu’r Coleg ar sail rhyddhad undydd.
Beth fyddaf yn ei wneud o ddydd i ddydd?
- Byddwch yn ymwybodol o reoliadau iechyd a diogelwch
- Byddwch yn gwella eich sgiliau perthynas waith ar draws y cwmni ac o fewn eich timau prosiect
- Byddwch yn ymdrin â gwybodaeth ac yn defnyddio cyfrifiaduron
- Rydych yn debygol o weithio gyda sylweddau peryglus
- Byddwch yn rheoli data ac yn creu adroddiadau
- Byddwch yn llunio cyflwyniadau ar waith yr ydych wedi’i gwblhau
Pa gymwysterau y byddaf yn eu cael fel rhan o’r brentisiaeth?
Byddwch yn derbyn cymwysterau a restrir fel rhan o safonau prentisiaeth Technegydd Labordy Lefel 3. Pe baech yn parhau ymlaen at eich safon prentisiaeth Gwyddonydd Niwclear Lefel 6 byddwch yn astudio ar gyfer gradd Baglor mewn Cemeg.
Ym mha leoliadau y mae’r brentisiaeth hon ar gael?
Yr ydym yn cynnig ein Prentisiaeth Wyddonol yn ein safleoedd ym Mhreston a Sellafield.
Pa gymwysterau fyddaf eu hangen i wneud cais am brentisiaeth?
Bydd gennych gefndir academaidd da yn barod pan fyddwch yn gwneud cais am brentisiaeth gyda ni. Fe ddylech fod wedi ennill 5 TGAU A-C (Graddio Newydd 9-4) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Byddwch ar y trywydd iawn i gyflawni neu wedi cyrraedd Lefel A ar isafswm marc C (rhaid i un ohonynt fod mewn Cemeg) neu BTEC mewn Cemeg ar radd Llwyddo.
Yr ydym yn chwilio am gyflawnwyr disglair, brwdfrydig sydd eisiau bod yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu’r diwydiant niwclear. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Beth fydd fy nghyflog fel rhan o’m prentisiaeth?
Yr ydym yn cynnig cyflog cystadleuol i bob un o’n prentisiaid ac y mae pob prentis yn derbyn codiad cyflog ar gyfer bob blwyddyn o’u prentisiaeth.