Cael mynediad i’n gwefan yw nod craidd LNC ac fe wnawn geisio sicrhau ei bod yn bosibl ei defnyddio gydag ystod eang o systemau gweithredu, porwyr a thechnolegau cynorthwyol arbenigol. Yr ydym wedi cymryd camau i sicrhau bod y wefan hon yn agored i bawb. Mae’r tudalennau ar y wefan yn XHTML 1.0 Trawsnewidiol ddilys ac mae’r Dalennau Arddull a ddefnyddir yn cydymffurfio â CSS 1.0.
Maint Testun
Os gwelwch fod y testun ar y wefan hon yn rhy fach, gallwch ei newid yn hawdd yn eich cysodiadau porwr. Yn syml, dilynwch y cyfarwyddiadau isod yn seiliedig ar y porwr yr ydych chi’n ei ddefnyddio.
Os ydych chi’n defnyddio Microsoft Internet Explorer, ewch i’r ddewislen View, dewiswch Text Size ac yna naill ai Larger neu Largest.
Os ydych chi’n defnyddio Mozilla Firefox, ewch i’r ddewislen View, dewiswch Text Size ac yna cliciwch ar Increase. Ailgyflawnwch i barhau i gynyddu maint y testun.
Os ydych chi’n defnyddio Google Chrome, cliciwch yr eicon Spanner ar y dde uchaf i addasu / rheoli eich cysodiadau yna cliciwch Zoom + neu – neu 100% i’w ailosod yn ddiofyn.
Chwyddo Testun
Mae porwyr modern hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr chwyddo testun i fwy neu lai. Ar gyfrifiadur personol, daliwch y fysell Ctrl i lawr ar eich bysellfwrdd ac yna tapiwch y plws (+) neu minws (-). Ar Mac defnyddiwch y fysell Apple / Cmd ac yna y plws (+) neu minws (- ).
Os oes achlysur pan nad yw ein gwefan yn diwallu angen grŵp defnyddwyr penodol fe wnawn newid ein cynnwys cyfredol, lle bynnag y bo hynny’n briodol, fel y gallwn ddod yn fwy cynhwysol i gynulleidfa ehangach. E-bostiwch ni os gwelwch yn dda os mai dyma yw’r achos: customers@nnl.co.uk