Mae LNC wedi ymrwymo i fod yn sefydliad agored a thryloyw. Yr ydym yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael, yn bennaf drwy ein gwefan (sy’n sail i’n Cynllun Cyhoeddi).
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan gallwch wneud cais i’n Rheolwr Cyfathrebu:
neu ysgrifennwch at:
Freedom of Information Requests
NNL Chadwick House
Birchwood Park
Warrington
WA3 6AE
Nodwch os gwelwch yn dda y gall ceisiadau a anfonwyd drwy’r post gael eu gohirio gan fod y rhan fwyaf o bobl yn gweithio y tu allan i’r swyddfa ar hyn o bryd. Os yn bosibl, e-bostiwch unrhyw geisiadau.
Mi wnawn geisio cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, byddwn yn anfon ymateb atoch o fewn 20 diwrnod gwaith i’ch cais cychwynnol.
Os nad yw’r wybodaeth a ddymunwyd gennym, fe rown wybod i chi. Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen i ni drosglwyddo’ch cais i sefydliad arall sy’n cadw’r wybodaeth. Os oes angen hynny fe wnawn roi gwybod i chi.
Os yw’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdano yn ymwneud â thrydydd person, fe wnaiff LNC ymgynghori â’r trydydd person ynghylch datgelu’r wybodaeth.
Mewn rhai amgylchiadau gall tâl fod yn angenrheidiol ac os yw hynny’n wir, fe wnawn adael i chi wybod am y tâl tebygol cyn mynd yn ein blaenau.
Eich hawliau
Mae gan aelodau o’r cyhoedd yr hawl i ofyn am wybodaeth gan LNC o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(FOI) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR).
Bydd gwybodaeth ond yn cael ei wrthod pan fod hynny’n angenrheidiol ac yn unol â deddfwriaeth, gan ystyried budd y cyhoedd a diogelu gwybodaeth gyfrinachol gyfreithlon, megis gwybodaeth bersonol a masnachol sensitif. Os bydd LNC yn penderfynu na ellir rhyddhau gwybodaeth, byddwn yn egluro’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniad hwnnw.
Rhaid i LNC ymateb i’ch cais cyn pen 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, gall gymryd hyd at 40 diwrnod ond byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw os yw hyn yn wir.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am weithredu’r ddeddfwriaeth hon. Gallwch ddarganfod mwy am y ddeddfwriaeth o Wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Cwynion
Os ydych chi’n teimlo’n anfodlon gyda’n hymateb i’ch cais am wybodaeth, cysylltwch â’r Rheolwr Cyfathrebu yn y lle cyntaf os gwelwch yn dda, gan ddefnyddio’r e-bost a / neu’r cyfeiriad uchod. Os ydych am wneud cwyn ffurfiol, anfonwch hwn yn ysgrifenedig at Gyfarwyddwr Cyfathrebu LNC yn yr un e-bost a / neu gyfeiriad ag uchod.
Bydd LNC yn cynnal adolygiad mewnol i mewn i’r penderfyniad hwn. Os ydych yn anfodlon gyda chanlyniad ein hadolygiad mewnol mae gennych hawl i apelio i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
FOI/EIR Complaints Resolution
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF